Asesu Llwyddiant sy’n Gysylltiedig â Galwedigaeth
![Asesu Llwyddiant sy'n Gysylltiedig â Galwedigaeth](https://www.pembrokeshire.ac.uk/wp-content/uploads/2022/02/portrait-of-a-male-warehouse-worker-or-supervisor-2021-08-26-12-07-58-utc-1024x683.jpg)
Asesu Llwyddiant sy’n Gysylltiedig â Galwedigaeth
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Asesu Llwyddiant sy'n Gysylltiedig â Galwedigaeth (6317-32)
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn, neu’n edrych i gael swyddi ym maes asesu a sicrhau ansawdd mewnol.
£1,500.00
Out of stock
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs 26 wythnos (chwe mis) hwn ar gyfer aseswyr/ymarferwyr sy’n asesu gwybodaeth a/neu sgiliau mewn meysydd pwnc galwedigaethol gan ddefnyddio’r dulliau asesu canlynol:
- Amgylcheddau Efelychol
- Profion Sgiliau
- Cwestiynau Llafar ac Ysgrifenedig
- Aseiniadau
- Prosiectau
- Astudiaethau achos
- Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)
Mae hwn yn un o’r cymwysterau asesu a sicrhau ansawdd, sy’n rhan o gyfres integredig o gymwysterau Sicrhau Ansawdd Asesu Hyfforddiant (TAQA) ar gyfer ymarferwyr hyfforddi, asesu a sicrhau ansawdd.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 141 neu unrhyw bryd drwy e-bost l.breckon@pembrokeshire.ac.uk- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu
- Asesu Sgiliau, Gwybodaeth a Dealltwriaeth Alwedigaethol
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Portffolio o dystiolaeth
- Ymweliadau gan eich aseswr â'ch gweithle
Gall y cymwysterau hyn eich helpu i symud ymlaen mewn ystod eang o rolau, gan gynnwys:
- Aseswr
- Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA)
- Prif Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol
- Cydlynydd y Ganolfan
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 13/11/2023