Coginio Proffesiynol
Coginio Proffesiynol
Diploma NVQ Lefel 3 City & Guilds mewn Coginio Proffesiynol (7133)
Mae’r cwrs hwn yn ddilyniant naturiol o Lefel 2 Coginio Proffesiynol ar gyfer y rhai sy’n cael eu cyflogi yn y diwydiant ar hyn o bryd, yn benodol o fewn cegin broffesiynol.
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£450.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno cyflawni safonau uchel o berfformiad mewn sgiliau coginio a patisserie. Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi dysgu sut i baratoi a choginio ystod eang o brydau cymhleth melys a sawrus. Mae dewis o dri llwybr i ddewis ohonynt yn dibynnu ar eich setiau sgiliau a’ch amgylchedd gwaith.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, am 30 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi.
- Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'r lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
- Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
- Llwybr Coginio Proffesiynol – byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn diogelwch a hylendid bwyd a gwaith tîm yn ogystal â dewis o ystod o opsiynau ymarferol, unrhyw beth o goginio prydau pysgod cregyn i ddatblygu bwydlenni.
- Paratoi a Choginio Bwyd – byddwch yn ymdrin ag ystod o unedau craidd wrth baratoi a choginio prydau cig fwy estynedig, prydau llysiau a llysieuol, prydau pysgod a physgod cregyn a seigiau dofednod a helgig.
- Patisserie a Melysion – byddwch yn canolbwyntio ar gynhyrchu eitemau toes a chytew, petit fours, cynhyrchion past, pwdinau poeth, oer ac wedi rhewi, cacennau, bisgedi a sbyngau.
Mae’r unedau gorfodol i’w hastudio yn cynnwys:
- Datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr
- Cynnal diogelwch bwyd wrth storio, paratoi a choginio bwyd
- Cynnal iechyd, hylendid a diogelwch yr amgylchedd gwaith
Dewiswch o amrywiaeth o unedau sydd ar gael o’r grwpiau dewisol (yn dibynnu ar y llwybr) ar gyfer gweddill y credydau ar gyfer y cymhwyster.
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Cogydd Iau Sous, Porthor Cegin, Cogydd Pantri, Cynorthwyydd Bwyd a Diod, Prif Gogydd, Sous Chef, Commis Chef, Patisserie Chef, Rheolwr dan Hyfforddiant, Chef de Partie, Demi Chef.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Set cyllyll arlwyo - mae hyn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £90
- Dillad Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2 - £71/£76
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 23/01/2024