Deiliaid Trwydded Bersonol

Deiliaid Trwydded Bersonol
Gwobr HABC Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i unrhyw fusnes sydd â thrwydded i werthu alcohol, gan gynnwys tafarndai bach, manwerthwyr, clybiau nos mawr, caffis, bwytai, gwestai a chyfleusterau chwaraeon, gael o leiaf un deiliad trwydded bersonol. I ddod yn ddeiliad trwydded bersonol, dylai unigolyn gael cymhwyster deiliad trwydded bersonol a reoleiddir.
£95.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs undydd ar-lein hwn wedi’i anelu at unigolion sy’n gweithio mewn, neu’n paratoi i weithio, mewn unrhyw ddiwydiant sy’n ymwneud â manwerthu alcohol. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwerthu neu awdurdodi gwerthu alcohol drwy fanwerthu ar safle trwyddedig feddu ar drwydded bersonol. Gall safle trwyddedig gael mwy nag un deiliad trwydded bersonol.
Sylwch fod y cwrs ar-lein a gellir ei wneud yn eich hamdden, ond bydd angen i chi ddod i mewn i’r Coleg i sefyll yr arholiad.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd angen i chi gofrestru gyda’ch cyngor lleol i gael eich trwydded.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Central yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 320 neu unrhyw bryd drwy e-bost central@colegsirbenfro.ac.uk
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
Mae’r pynciau’n ymdrin â natur, diben a chyfnod dilysrwydd trwydded bersonol, y broses ymgeisio a dyletswyddau cyfreithiol wrth wneud cais am drwydded bersonol, dyletswyddau cyfreithiol deiliad trwydded bersonol, rolau, cyfrifoldebau a swyddogaethau awdurdodau trwyddedu, natur a chryfder alcohol a’r effaith ar y corff a’r gyfraith mewn perthynas â thrwyddedau safleoedd.
Bydd y pynciau a astudir yn cynnwys:
- Deall y broses o wneud cais am drwydded bersonol
- Eich dyletswyddau cyfreithiol fel deiliad trwydded bersonol
- Rolau, cyfrifoldebau a swyddogaethau awdurdodau trwyddedu
- Yr amcanion trwyddedu a pham eu bod mor bwysig
- Sut y gall natur a chryfder alcohol effeithio ar eich cwsmeriaid
- Y gyfraith sy’n ymwneud ag amddiffyn plant ar safle trwyddedig
- Y pwerau sydd gan yr heddlu ac awdurdodau eraill
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
- Arholiad ysgrifenedig
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol
- Mae ffioedd cofrestru/tanysgrifio ar gyfer y cymhwyster hwn
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid - cysylltwch â central@pembrokeshire.ac.uk
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r pynciau’n ymdrin â natur, diben a chyfnod dilysrwydd trwydded bersonol, y broses ymgeisio a dyletswyddau cyfreithiol wrth wneud cais am drwydded bersonol, dyletswyddau cyfreithiol deiliad trwydded bersonol, rolau, cyfrifoldebau a swyddogaethau awdurdodau trwyddedu, natur a chryfder alcohol a’r effaith ar y corff a’r gyfraith mewn perthynas â thrwyddedau safleoedd.
Bydd y pynciau a astudir yn cynnwys:
- Deall y broses o wneud cais am drwydded bersonol
- Eich dyletswyddau cyfreithiol fel deiliad trwydded bersonol
- Rolau, cyfrifoldebau a swyddogaethau awdurdodau trwyddedu
- Yr amcanion trwyddedu a pham eu bod mor bwysig
- Sut y gall natur a chryfder alcohol effeithio ar eich cwsmeriaid
- Y gyfraith sy’n ymwneud ag amddiffyn plant ar safle trwyddedig
- Y pwerau sydd gan yr heddlu ac awdurdodau eraill
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
- Mae ffioedd cofrestru/tanysgrifio ar gyfer y cymhwyster hwn
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid - cysylltwch â central@pembrokeshire.ac.uk
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
“Yn ddiweddar fe wnes i orffen ‘Diogelwch Bwyd Lefel 3’ a ‘Deiliaid Trwydded Bersonol Lefel 2’ gyda Highfield trwy Goleg Sir Benfro. Rwy’n 26 ac yn brif gogydd mewn bwyty yn Nhyddewi. Byddwn yn bendant yn argymell y cyrsiau hyn i unrhyw un sy’n gweithio gyda bwyd a diod. Mae’r dysgu ar-lein, felly gallwch weithio arno ar eich cyflymder eich hun, ac mae wedi’i roi at ei gilydd yn dda iawn. Mae’r wybodaeth yn glir ac yn gryno, gyda llawer o ryngweithio felly mae’n hawdd cofio ar gyfer y cwestiynau amlddewis a’r arholiad personol ar y diwedd. Roedd hefyd wedi’i ariannu’n llawn felly nid oedd yn costio ceiniog! Rhaid canmol hefyd y staff sy’n ei gydlynu mor dda ac yn hynod gymwynasgar.” Jon
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Dyddiad Cychwyn: | |
Duration: | 1 diwrnod |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 11/12/2024