Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n ansicr am eu llwybr gyrfa ac sy’n ceisio rhaglen gyda ffocws ymarferol i’w paratoi eu hunain ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol neu astudiaeth bellach.
Mae hefyd yn addas i’r rhai sy’n dymuno ymgymryd â chwrs ymarferol sy’n datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer unrhyw weithle gan gynnwys arweinyddiaeth, gwaith tîm a gwydnwch.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y cwrs hwn yn adeiladu eich dealltwriaeth o amrywiaeth o yrfaoedd, yn gwella eich lefelau iechyd a ffitrwydd, eich hyder, gweinyddiaeth bersonol, hunanddisgyblaeth a gweithio ar eich sgiliau arwain, adeiladu tîm a chyfathrebu.
Yn ogystal â hyn, mae gennych gyfle i ennill gwybodaeth am arwain ffordd iach o fyw, arwain eich cyfoedion a sut i ymdrin â senarios Cymorth Cyntaf sylfaenol.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dau TGAU gradd G neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Ar gael i rai rhwng 16 a 18 oed
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Ategir cynnwys y rhaglen gan y 5 Ffordd at Les, gan feithrin sgiliau ar draws yr ystod eang o feysydd gan gynnwys:-
- Cysylltu ag Eraill – gwaith tîm ac arweinyddiaeth, crefft maes awyr agored, gyrfa a chynllun dilyniant personol ar gyfer cyflogaeth neu astudiaeth bellach
- Bod yn Egnïol yn Gorfforol – amrywiaeth eang o sesiynau gweithgaredd corfforol
- Dysgu Sgiliau Newydd – datrys problemau, sgiliau cyfathrebu, cymorth cyntaf sylfaenol, llywio a sgiliau ymarferol
- Rhoi i Eraill – datblygu sgiliau gwydnwch, hyder wrth weithio gydag eraill a gwaith cymunedol yn yr awyr agored
- Rhowch Sylw i’r Foment Bresennol – Iechyd a Llesiant, gweithgareddau ffordd o fyw, maeth sylfaenol a gweithgareddau llesiant
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth neu astudiaeth bellach.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Dillad brand penodol, yn daladwy ar ddechrau eich cwrs
- Dillad ymarferol/cysurus ar gyfer rhannau o'r cwrs
- Cit Academi Pêl-droed - £160 (os yn berthnasol)
- Cit Academi Rygbi - £120 (os yn berthnasol)
- Pecyn Academi Merched - £110 (os yn berthnasol)
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Bydd angen i chi dalu ffi cyfleuster o £65 bob ffitrwydd blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
