Crefft Uwchgylchu
Crefft Uwchgylchu
Tystysgrif cwblhau coleg
Mae’r cwrs yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu anrhegion ac eitemau wedi’u gwneud â llaw ar gyfer y cartref gan ddefnyddio mannau cychwyn cynaliadwy.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Os oes gennych chi angerdd am ‘gelf wedi’i huwchgylchu’ neu ‘vintage chic’, ac yn gallu gwerthfawrogi popeth sydd wedi’i wneud â llaw, yna mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi. Os ydych chi bob amser wedi bod eisiau rhoi cynnig ar greu anrhegion a gwrthrychau addurniadol ar gyfer y cartref gan ddefnyddio deunyddiau a ddarganfuwyd neu wedi ystyried rhoi cynnig ar ailwampio hen gynhwysydd pren neu ddarn o ddodrefn, yna bydd y cwrs hwn yn dangos sut i chi. Nid oes angen profiad blaenorol; dim ond gwir diddordeb mewn creu gwrthrychau unigryw, addurniadol a pharodrwydd i archwilio prosesau a syniadau newydd.
Nid yw’r cwrs hwn wedi’i achredu felly ni chewch eich asesu. Mae ar gyfer datblygiad personol a hwyl!
Gall y cwrs wyth wythnos hwn ddychwelyd yn y flwyddyn academaidd newydd.
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
Nod y cwrs yw ymdrin ag ystod o dechnegau a fydd yn eich galluogi i gynhyrchu eitemau swyddogaethol ac addurniadol ar gyfer y cartref, ac fel anrhegion i ffrindiau a theulu. Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut i gyflawni rhai arddulliau a gorffeniadau a bydd yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn y mae arddull ‘uwchgylchu’ yn ei olygu.
Dros yr 8 wythnos byddwch yn cael y cyfle i archwilio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau megis; crefftau papur, effeithiau paent, decoupage, celf wedi’i newid a chrefft ffabrig, gyda’r pwyslais ar ailgylchu, uwchgylchu a meddwl cynaliadwy.
Bydd pob gweithdy yn cael ei arwain gan arddangosiad ymarferol yn archwilio prosesau gwneud amrywiol, technegau, syniadau a mannau cychwyn. Bydd hyn wedyn yn caniatáu i chi ddatblygu eich sgiliau ymarferol a chreadigedd trwy gymhwyso’r syniadau eich hun. Bydd enghreifftiau o ddylunwyr a gwneuthurwyr eraill yn gweithio gyda thechnegau a deunyddiau tebyg hefyd yn cael eu defnyddio i hyrwyddo eich creadigrwydd eich hun a darparu ysbrydoliaeth, gan anelu at ddangos yr amrywiaeth o bosibiliadau sydd ar gael i chi.
Byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhau Coleg ar ddiwedd y cwrs.
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
- Amherthnasol
Yn dilyn y cwrs hwn, efallai yr hoffech chi roi cynnig ar gwrs Cymunedol arall.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol

Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Rhaid i'r dysgwr fod dros 18 oed
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Nod y cwrs yw ymdrin ag ystod o dechnegau a fydd yn eich galluogi i gynhyrchu eitemau swyddogaethol ac addurniadol ar gyfer y cartref, ac fel anrhegion i ffrindiau a theulu. Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut i gyflawni rhai arddulliau a gorffeniadau a bydd yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn y mae arddull ‘uwchgylchu’ yn ei olygu.
Dros yr 8 wythnos byddwch yn cael y cyfle i archwilio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau megis; crefftau papur, effeithiau paent, decoupage, celf wedi’i newid a chrefft ffabrig, gyda’r pwyslais ar ailgylchu, uwchgylchu a meddwl cynaliadwy.
Bydd pob gweithdy yn cael ei arwain gan arddangosiad ymarferol yn archwilio prosesau gwneud amrywiol, technegau, syniadau a mannau cychwyn. Bydd hyn wedyn yn caniatáu i chi ddatblygu eich sgiliau ymarferol a chreadigedd trwy gymhwyso’r syniadau eich hun. Bydd enghreifftiau o ddylunwyr a gwneuthurwyr eraill yn gweithio gyda thechnegau a deunyddiau tebyg hefyd yn cael eu defnyddio i hyrwyddo eich creadigrwydd eich hun a darparu ysbrydoliaeth, gan anelu at ddangos yr amrywiaeth o bosibiliadau sydd ar gael i chi.
Byddwch yn derbyn tystysgrif cwblhau Coleg ar ddiwedd y cwrs.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Amherthnasol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Yn dilyn y cwrs hwn, efallai yr hoffech chi roi cynnig ar gwrs Cymunedol arall.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Modd | Hwyr; Rhan amser |
---|---|
Dyddiad y Cwrs | 01 Hydref 2024, Tymor 2 24.25, Tymor 3 24.25 |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 10/12/2024