Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Gofal Plant

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 CBAC: Craidd | Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 CBAC: Ymarfer a Theori

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 2 - Canolradd

ID y Cwrs: 32255

Pan fydd y gwaith caled yn profi’n llwyddiannus; gweld wynebau’r plant pan fyddant yn gwneud rhywbeth nad oeddent yn meddwl y gallent ei wneud. Beth allai fod yn well na hynny?

Athro yn darllen i blant.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r rhaglen hon o gymwysterau yn cyfuno gwybodaeth theori â’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector. Wedi’i anelu at ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru, sy’n gweithio neu’n ceisio gweithio, mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan wyth oed a/neu wasanaethau plant y GIG ar gyfer y rheini sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd plant.

  • Dau TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf yn ddelfrydol
  • Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd D neu uwch
  • Neu dystiolaeth o welliant o TGAU/au mewnol
  • Penderfyniad llwyddiannus yn dilyn y bwrdd dilyniant
  • Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl

Craidd

Bydd y rhan hon o’r cymhwyster yn ymdrin â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth graidd o’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant sy’n ofynnol i weithio yn y sector gofal plant. Trwy astudio’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn cwblhau’r unedau canlynol:

  • Egwyddorion a gwerthoedd gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant (0-19 oed)
  • Iechyd, lles, dysgu a datblygiad
  • Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • Diogelu plant
  • Iechyd a diogelwch mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant

Ymarfer a Theori

Y Theori yw 10% o’r cymhwyster ac Ymarfer yw 90% o’r cymhwyster. Mae’r unedau’n cynnwys:

  • Cefnogi ymarfer craidd mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • Cefnogi chwarae, dysgu, twf a datblygiad
  • Cefnogi maeth a hydradu yn y blynyddoedd cynnar
  • Ymateb i arwyddion o salwch posibl a haint/pla
  • Cefnogi gofal plant 0-2/2-3 oed
  • Deall gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • Dulliau cadarnhaol o gefnogi ymddygiad yn y blynyddoedd cynnar

Bydd gofyn i chi drefnu a mynychu dros 280 awr o leoliad gwaith. Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau’r cwrs hwn.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Tystiolaeth gweithle
  • Arholiad ysgrifenedig

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn caniatáu i ddysgwyr weithio fel gweithiwr gofal plant lefel 2 cymwysedig dan oruchwyliaeth mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys: Gweithiwr Chwarae Cynorthwyol, Gwarchodwr Plant, Cynorthwyydd Meithrin, Cynorthwyydd Dosbarth, Gweithiwr Gofal y Tu Allan i Oriau Ysgol, Cynorthwyydd Cymorth Dysgu, Cynorthwy-ydd Anghenion Arbennig.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Dillad brand penodol, yn daladwy ar ddechrau eich cwrs
  • Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27
  • Ffi DBS Manwl - £54.95, yn daladwy wrth gofrestru
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 14/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close