Cost y cwrs:
Olew: Gosod Storfa Tanwydd Olew

Olew: Gosod Storfa Tanwydd Olew
OFTEC Gosod systemau storio a chyflenwi tanwydd olew sy'n gysylltiedig ag offer hylosgi sefydlog (OFT10-600A)
Mae’r cwrs hwn ar gyfer technegwyr sy’n dymuno gosod tanciau olew a phibellau ac offer cysylltiedig.
SKU: 1505F7551
MEYSYDD: Adeiladu a Chrefftau, Ynni
DYSGWYR: Datblygu Staff, Dysgwyr sy'n Oedolion
ID: N/A
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs asesu deuddydd hwn yn addas ar gyfer peirianwyr profiadol a newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant ac mae’n ymdrin â gosod tanciau olew a phibellau a chyfarpar cysylltiedig.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Ynni ar 01437 753 436 neu drwy e-bost canolfanynni@colegsirbenfro.ac.uk
Beth yw'r gofynion mynediad?
Ar gyfer yr asesiad cychwynnol rhaid i ymgeiswyr fodloni’r gofynion mynediad a osodwyd gan OFTEC ar gyfer ymgeiswyr categori 1, 2, a 3. Gallai hyn gynnwys dilyn tystysgrif hyfforddiant OFT50.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r meysydd a gwmpesir gan y cwrs hwn yn cynnwys:
- Iechyd a Diogelwch
- Deddfwriaeth a gofynion rhanbarthol
- Gosod falf tân
- Ynysu trydanol diogel
- Storio a chyflenwi olew
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau Canolfan Ynni.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Copïau o ddysgu blaenorol a/neu gymwysterau
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.