Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Gwaith Saer – Craidd

Gwaith Saer – Craidd

Cwrs Gwaith Saer

Craidd Lefel 2 City & Guilds mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (8042-52)

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa “ymarferol” yn y Diwydiant Adeiladu Galwedigaethau Pren yna dyma’r rhaglen i chi. Dysgu trwy ymarfer a datblygu sgiliau gwaith saer ac asiedydd allweddol.

 

SKU: 1505F7311
ID: 52286

Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid

£750.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs blwyddyn rhan-amser hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwr, i astudio ar sail rhyddhau am y dydd, o unrhyw oedran sydd eisiau dysgu crefft ac mae’n addas ar gyfer dysgwyr sydd newydd gael eu cyflogi yn y diwydiant adeiladu, neu’r rhai sy’n edrych am yrfa newydd.

Bydd pob dysgwr adeiladu yng Nghymru sy’n dymuno dilyn cyrsiau pellach mewn crefft adeiladu yn cwblhau’r cymhwyster hwn. Mae’r chwe uned graidd hefyd yn rhan o bob prentisiaeth adeiladu, felly os ewch ymlaen i brentisiaeth ar ôl hyn, byddwch eisoes wedi cwblhau rhan sylweddol o’r dysgu gofynnol.

Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, am 34 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol

Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o dasgau o fewn amgylchedd gweithdy ‘byw’. Ategir y tasgau hyn gan arddangosiadau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu eich ymwybyddiaeth o’r angen am arferion gweithio diogel, sgiliau offer sylfaenol a mesur cywir. Mae’r holl sgiliau hyn yn angenrheidiol i ddod yn grefftwr cymwys.

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:

  • Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n rhan o’r amgylchedd adeiledig a sut maent yn newid, ac wedi newid, dros amser
  • Dealltwriaeth o’r crefftau, rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Dealltwriaeth o gylchred oes adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ar bob cam
  • Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Gwybodaeth am dechnolegau newydd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol ac yn bwysig yn y gweithle yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Gwybodaeth a gallu i gymhwyso egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n diogelu iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd
  • Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy’n ofynnol wrth gynllunio, perfformio a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn crefft ddewisol o fewn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig

Mae’r unedau craidd i’w hastudio yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i’r Amgylchedd Adeiledig
  • Cyflwyniad i’r Crefftau yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Cyflwyniad i Gylch Bywyd yr Amgylchedd Adeiledig
  • Cyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Diogelu Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Cyflwyniad i Dechnolegau Datblygol yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Uned pwnc benodol i’w hastudio:

  • Galwedigaethau Pren – Bydd dysgwyr yn dod i ddeall rôl, offer, defnyddiau a chyfarpar a ddefnyddir wrth gyflawni tasgau gwaith coed.

Os nad oes gennych gymwysterau TGAU Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd, efallai y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • Cymru Sgiliau Hanfodol (CSH) – Sgiliau Cyfathrebu
  • Cymru Sgiliau Hanfodol (CSH) – Sgiliau Cymhwyso Rhif

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ar-lein
  • Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

Mae cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol yn cynnwys saer safle, saer pensaernïol, gosodwr siopau neu greu tu mewn wedi’i ffitio.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Trowsus gwaith coed - £30
  • Esgidiau/bwts diogelwch gwaith coed - £14/£39
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 23/01/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Cwrs Gwaith Saer
You're viewing: Gwaith Saer – Craidd £750.00
Add to cart
Shopping cart close