Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

IOSH Rheoli Iechyd a Lles Galwedigaethol

IOSH Rheoli Iechyd a Lles Galwedigaethol

Boardgame pieces in multicolours as a collective.

IOSH Rheoli Iechyd a Lles Galwedigaethol

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i addysgu rheolwyr llinell ar sut i ddylanwadu’n gadarnhaol ar les ac iechyd meddwl staff.

£198.00

Out of stock

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae cwrs Rheoli Iechyd a Lles Galwedigaethol IOSH yn parhau i gael ei ddefnyddio’n fyd-eang fel darparwr iechyd meddwl cadarnhaol. Mae’r cymhwyster yn darparu dealltwriaeth fanwl o sut i ddylanwadu ar iechyd meddwl a lles mewnol i’r cyfeiriad cywir.

Bydd yn rhoi cyngor ymarferol ac offer i reolwyr i helpu i greu gweithle iach a chynhyrchiol. Bydd y cwrs yn cynnig cyngor ymarferol i reoli risgiau iechyd ac yn cadarnhau eich dealltwriaeth o gyfrifoldebau dros iechyd a lles staff.

Nid oes gan yr IOSH Rheoli Iechyd a Lles Galwedigaethol unrhyw ofynion mynediad a bennwyd ymlaen llaw. Mae hyn yn sicrhau y gall unrhyw reolwr llinell ddilyn y cwrs a chael effaith gadarnhaol ar unwaith ar les ac iechyd meddwl eu cwmni.

Ar-lein – Mae ein cyrsiau rhyngweithiol ac amlgyfrwng cyfoethog yn cyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith/bywyd eraill.

Hyd y cwrs yw 6-8 awr ond mae gan ddysgwyr 6 mis o gofrestru i gwblhau.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig

Bydd modiwlau yn cynnwys:

Cwmni Iachus
Yn cyflwyno egwyddorion sylfaenol iechyd a rheolaeth. Mae’r uned hefyd yn ymgorffori’r ‘Asesiad Anghenion Iechyd’ a sut y gallant fod o fudd i berfformiad busnes cyffredinol.

Ffitrwydd i Weithio
Yn archwilio’r gwahanol fathau o anafiadau ac amodau nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith gan sefydlu sut maent yn amharu ar allu gweithio.

Asesiad Risg Iechyd
Yn cyflwyno’r pum categori peryglon iechyd ac yn edrych ar achosion peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â gwaith ym mhob categori ac effaith pob achos.

Lles
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar sut i weithredu strategaeth les yn llwyddiannus a sut mae’n ychwanegu gwerth at eich busnes.

Ar ddiwedd y cwrs, mae prawf amlddewis byr, sy’n cynnwys 20 cwestiwn, a bydd gennych 30 munud i’w gwblhau.

Bydd asesiad risg iechyd ymarferol yn y gweithle hefyd, i’w gwblhau o fewn 2 wythnos i gwblhau deunydd y cwrs a’i gyflwyno trwy e-bost.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Tystiolaeth gweithle
  • Arholiad ar-lein

Datblygwch eich pobl ar gyfer sefydliad gwell.
Trwy gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd o’r cymhwyster Rheoli Iechyd a Lles Galwedigaethol IOSH, byddwch yn gallu cyfrannu at gynnal gweithle diogel a iach.

  • Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 16/04/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close