Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cynnal a Chadw Car Sylfaenol

Cynnal a Chadw Car Sylfaenol

Arllwys olew i mewn i injan car

Cynnal a Chadw Car Sylfaenol

Datblygu hyder a sgiliau ymarferol sydd eu hangen i wneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar gerbydau modur ysgafn.

SKU: 1004F7551
ID: 53951

£155.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs chwe wythnos hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dysgu gwybodaeth gyffredinol am gynnal a chadw ceir sylfaenol a bydd yn cynnwys gwirio teiars, goleuadau dangosfwrdd sylfaenol, trydan cerbydau, profion MOT, cynnal a chadw sychwyr sgrin wynt a chydrannau injan sylfaenol.

Cyflwynir y cwrs hwn trwy weithgareddau gweithdy ymarferol a darlithoedd byr.

Byddwch yn cael eich hyfforddi a’ch asesu ar dasgau ymarferol a gyflawnir yn ein gweithdai cerbydau modur llawn offer.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Dylech fod â'r gallu corfforol i gwblhau elfennau ymarferol y cwrs hwn
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
  • Gwybodaeth am Iechyd, Diogelwch a Chadw Tŷ Da yn yr Amgylchedd Modurol.
  • Sgiliau ymarferol sydd eu hangen mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn Rheolaidd.
  • Hanfodion y Gaeaf ac Awgrymiadau Gyrru.
  • Gwybodaeth am Gynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn Rheolaidd ac Archwiliad Cyn MOT.
  • Sgiliau Cynnal Unedau Siasi Cerbyd Ysgafn a Chydrannau.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Oferols gwrth-fflam peirianneg - £35
  • Esgidiau diogelwch peirianyddol - £14/£35

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

  • Dim costau ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Dyddiad y Cwrs:

13 Mai 2024

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 16/04/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Arllwys olew i mewn i injan car
You're viewing: Cynnal a Chadw Car Sylfaenol £155.00
Select options
Shopping cart close