Peirianneg Offeryniaeth
Peirianneg Offeryniaeth
Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Electroneg Offeryniaeth
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu sylfaen drylwyr mewn cysyniadau allweddol a sgiliau ymarferol ac mae wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y rhai sy’n gweithio ar hyn o bryd neu’n gwneud cais i weithio ym maes gweithrediadau peiriannau a pheiriannau prosesu cemegol.
SKU: 1004F7332
MEYSYDD:Peirianneg
DYSGWYR:Dysgwyr sy'n Oedolion, Lefel Uwch
ID: 38630
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£2,196
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r rhaglen Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) hon yn cynnwys unedau peirianneg ac yn cynnig pwyslais cryf, sy’n gysylltiedig â’r sector, ar ddatblygu sgiliau ymarferol ochr yn ochr â datblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, dros 2 flynedd, gan ddechrau ym mis Medi.
Mae’r coleg yn gorff cysylltiedig i Brifysgol Cymru ac wedi’i ddynodi’n Sefydliad Technegol Prifysgol Cymru (STPC). Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro, Choleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Caerdydd a’r Fro a Grŵp Colegau NPTC i ddatblygu addysg dechnegol uwch a hyfforddiant ac arloesedd a arweinir gan gyflogwyr. Gan weithio o fewn strwythur cydffederal, caiff y rhwydwaith o Sefydliadau Technegol ei lywio gan anghenion cyflogwyr a’i nod yw hyrwyddo cyfle cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol.
Mae dysgwyr sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau a ddarperir gan y coleg fel un o Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru yn derbyn dyfarniad a ddilysir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
- 48 pwynt Tariff UCAS o gymhwyster Lefel-A neu alwedigaethol
- Bydd mynediad uniongyrchol i ymgeiswyr sydd wedi bod allan o addysg llawn-amser am fwy na dwy flynedd yn cael eu hystyried yn seiliedig ar ddysgu neu brofiad blaenorol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Gall mynediad fod yn amodol ar gyfweliad
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- 48 pwynt Tariff UCAS o gymhwyster Lefel-A neu alwedigaethol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae cwrs HNC Peirianneg Offeryniaeth fel arfer yn cynnwys y modiwlau canlynol:
- Peirianneg Mathemateg
- Egwyddorion Trydanol
- Sgiliau Astudio Ymchwil a Chyflwyno
- Systemau Mesur Diwydiannol
- Systemau Ymgorfforedig
- Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy
- Offeryniaeth, Awtomatiaeth a Rheolaeth
- Niwmateg a Hydroleg
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Bydd cwblhau’r HNC yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad i gyrsiau Gradd Genedlaethol Uwch (HND)/gradd mewn pynciau cysylltiedig.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Sut gallaf dalu am y cwrs hwn?
Dysgwch am y cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr Addysg Uwch ar ein cyllid myfyrwyr dudalen.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael eich hepgor rhag talu ffioedd os ydych yn gyflogedig ac yn dilyn, neu’n bwriadu dilyn, rhaglen prentisiaeth uwch gyda Choleg Sir Benfro.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 29/11/2023