Cost y cwrs:
System Chwistrellu Tân
System Chwistrellu Tân
Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Chwistrellu Tân Awtomatig mewn Anheddau Domestig Level 3 QCS
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion sy’n dymuno ennill y wybodaeth angenrheidiol i osod a chynnal systemau chwistrellu tân domestig.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion sy’n dymuno ennill y wybodaeth angenrheidiol i osod a chynnal systemau chwistrellu tân domestig. Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant chwistrellu a’r rhai sy’n dymuno uwchsgilio, newid proffesiwn neu ar gyfer cwmnïau sy’n dymuno ymgymryd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) gyda’u gosodwyr.
Beth yw'r gofynion mynediad?
Tystysgrif Rheoliadau Dŵr a/neu NVQ Lefel 3 Plymio
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- Paratoi’r amgylchedd gwaith ar gyfer gosod systemau chwistrellu awtomatig
- Gallu gosod a chomisiynu system chwistrellu tân awtomatig
- Cynnal gwiriadau gwasanaeth a chynnal a chadw system chwistrellu tân mewn anheddau domestig
- Gofynion y System
- Deddfwriaeth
- BS9251 – y brif Safon Brydeinig ar gyfer systemau chwistrellu tân yn y wlad
- Y gwahanol fathau o bennau chwistrellu a chysylltiadau dŵr
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Following completion of this course you might want to try another one of our Energy Centre courses.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Copïau o ddysgu blaenorol a/neu gymwysterau
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.