Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Systemau Storio Ynni Trydanol: Gosod a Chomisiynu

Systemau Storio Ynni Trydanol: Gosod a Chomisiynu

Systemau Storio Ynni Trydanol: Gosod a Chomisiynu

Systemau Storio Ynni Trydanol: Gosod a Chomisiynu

Mae hwn yn gymhwyster a reoleiddir ar gyfer y rhai sy’n dymuno dylunio, gosod a chomisiynu Systemau Storio Ynni Trydanol.

Cost y cwrs:

£420.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cymhwyster rheoledig hwn ar gyfer y rhai sy’n dymuno cyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn dylunio, gosod a chomisiynu Systemau Storio Ynni Trydanol.

Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio ar y cyd â Chod Ymarfer diweddaraf yr IET ac mae’n cael ei gydnabod gan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS) and mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddiweddaru i BS7671: Diwygiad 2 2018 (2022) a gofynion cyfredol y diwydiant.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n Canolfan Ynni ar 01437 753 436, drwy e-bost canolfanynni@colegsirbenfro.ac.uk neu drwy’r ffurflen gais am alwad yn ôl isod.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at drydanwyr sy’n gweithio mewn eiddo domestig a/neu annomestig a bydd ganddynt o leiaf;

  • Dyfarniad Lefel 3 yn y Gofynion ar gyfer Gosodiadau Trydanol BS7671 (argraffiad cyfredol) a
  • Dyfarniad Lefel 3 mewn Dilysu ac Ardystio Cychwynnol Gosodiadau Trydanol neu ddyfarniad cyfun gan gynnwys Archwilio a Phrofi Cyfnodol

 

Os nad oes gan yr ymgeisydd Ddyfarniad Lefel 3 yn y Dilysu Cychwynnol ac Ardystio Gosodiadau Trydanol, yna rhaid meddu ar un o’r canlynol;

  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gosod Systemau ac Offer Electrotechnegol
  • SVQ mewn Gosodiadau Trydanol (SCQF Lefel 7)
  • Tystysgrif Lefel 3 mewn Gosod, Profi a Sicrhau Cydymffurfiaeth Gosodiadau Trydanol mewn Anheddau
  • Cymhwyster Gweithiwr Profiadol
  • Cerdyn Aur ECS (Trydanwr Gosod neu Gymeradwy)
  • Bod yn aelod o gynllun person cymwys, fel Goruchwyliwr Cymwys sy’n bodloni gofynion y Fanyleb Asesiad Electrodechnegol (EAS).

Byddwch yn dysgu:

  • y gofynion allweddol ar gyfer gosod systemau storio ynni trydanol
  • i nodi offer, trefniadau a dulliau gweithredu systemau storio ynni trydanol
  • deall paratoi dylunio a gosod systemau storio ynni trydanol
  • i baratoi ar gyfer gosod systemau storio ynni trydanol
  • i osod systemau storio ynni trydanol
  • deall y gofynion ar gyfer dilysu cychwynnol a throsglwyddo systemau storio ynni trydanol
  • cynnal dilysiad cychwynnol a throsglwyddo systemau storio ynni trydano

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Arholiad ymarferol
  • Arholiad ar-lein

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau Canolfan Ynni.

  • Copïau o ddysgu blaenorol a/neu gymwysterau

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

  • Dim costau ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

Rhowch rai manylion isod i ofyn am alwad yn ôl:

Cyfryngau Cymdeithasol

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 16/04/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
You're viewing: Systemau Storio Ynni Trydanol: Gosod a Chomisiynu £420.00
Add to cart
Shopping cart close