Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Therapi Harddwch

Therapi Harddwch

Therapi Harddwch

Diploma VTCT Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch

Mae hwn yn gwrs therapi harddwch uwch, yn ddelfrydol os ydych newydd ennill eich cymhwyster Therapi Harddwch Lefel 2, neu wedi gweithio mewn salon neu swydd debyg ers peth amser ac eisiau dod yn uwch aelod o staff ac i ddangos sgiliau arbenigol.

 

SKU: 1207F7311
ID: 39786

Fees are per academic year, subject to change

£1,250.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cymhwyster seiliedig ar hon yn ddwys ac yn heriol yn cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i weithio’n effeithiol fel therapydd harddwch.

Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, am 34 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi. Bydd hyn yn cynnwys noson yn salon masnachol y Coleg ac efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ddod â’u cleientiaid eu hunain i mewn i’r salon er mwyn cwblhau’r asesiadau mewn ystod o sgiliau.
  • You will be expected to have successfully completed the previous level in this subject area or similar
  • Good personal presentation and communication skills are required
  • Each application is considered on individual merit

Mae’r cwrs yn cynnwys wyth uned gyda phwyslais ar asesiadau ymarferol, terfynau amser aseiniadau, profion allanol ac asesiadau graddedig. Byddwch yn mynychu sesiynau salon ac ystafell ddosbarth ar yr amserlen ar gyfer pob uned:

  • Gweithio gyda chydweithwyr mewn diwydiannau sy’n ymwneud â harddwch – mae’r uned hon yn edrych ar y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gyfathrebu’n effeithiol a ffurfio perthnasoedd gwaith da.
  • Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon – p’un a ydych yn gweithio mewn salon, sba, llong fordaith neu ar set, mae angen i chi wybod sut i gynnal amgylchedd diogel ar gyfer staff, cleientiaid a modelau. Byddwch yn dysgu sut i gynnal asesiadau risg, cael arweiniad ar y mathau o yswiriant sydd eu hangen, ac edrych ar sut i sefydlu staff newydd a’r math o hyfforddiant a chymorth y gallai fod eu hangen arnynt.
  • Gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau sy’n ymwneud â harddwch – yn y diwydiant hwn mae angen sgiliau llafar rhagorol arnoch gan gynnwys defnyddio gwahanol dechnegau holi. Byddwch yn dysgu am iaith y corff, sut i ymddwyn mewn sefyllfa salon a’r gofynion cyfreithiol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.
  • Hyrwyddo a gwerthu nwyddau a gwasanaethau i gleientiaid – bydd yr uned hon yn eich helpu i fagu hyder drwy edrych yn wahanol ar y grefft o werthu a hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau.
  • Darparu dylino’r corff – yn yr uned hon byddwch yn dysgu sut i ddewis y technegau a’r cynhyrchion mwyaf priodol i weddu i’r cleient. Mae’r uned hon yn cynnwys defnyddio lampau isgoch ac offer tylino mecanyddol.
  • Darparu triniaethau electrotherapi’r wyneb – bydd yr uned hon yn rhoi’r wybodaeth, y technegau a’r arbenigedd i chi drin amrywiaeth eang o broblemau croen. Mae’r triniaethau’n cynnwys Amlder Uchel, sugnedd gwactod, EMS, Desincrustation, Iontophoresis a Microcurrent (wyneb heb lawdriniaeth).
  • Darparu triniaethau electrotherapi’r corff – bydd yr uned hon yn rhoi’r wybodaeth, y technegau a’r arbenigedd i chi drin amrywiaeth eang o broblemau croen a chorff. Mae’r triniaethau’n cynnwys Amlder Uchel, sugnedd gwactod, EMS, Desincrustation, Iontophoresis a Microcurrent (corff heb lawdriniaeth).
  • Darparu lliw haul – Yn yr uned hon byddwch yn dysgu sut i roi’r lliw haul perffaith ar y corff a’r wyneb, trwy ei roi â llaw a thrwy chwistrellu.
  • Darparu micro-dermabrasion – mae’r driniaeth hon yn defnyddio llif rheoledig o grisialau i ddiblisgio wyneb y croen yn fecanyddol. Mae hefyd yn ymdrin â’r mathau o groen a chyflyrau rydych chi’n debygol o ddod ar eu traws mewn gwaith wyneb a sut i gynghori cleientiaid ar ddefnyddio cynnyrch a newidiadau i’ch ffordd o fyw.
  • Cymhwyso therapi carreg – Byddwch yn dysgu sut i gyflawni’r technegau cydnabyddedig, gan gynnwys asio gwres, oerni, tylino a chydbwyso egni gyda sgil a hyder.

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys presenoldeb wythnosol mewn sesiynau masnachol gyda’r nos a bydd gofyn i chi drefnu eich cludiant eich hun.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Portfolio of evidence
  • Practical examination
  • If taken as an apprenticeship then reviews with your assessor and employer will take place every 1-2 months and you will be expected to have developed your skills and knowledge between each review

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Therapydd Harddwch, Artist Colur, Technegydd Ewinedd, Masseur, Therapydd Cyflenwol, Artist Colur Effeithiau Arbennig, Arbenigwr Gofal Croen, Ymgynghorydd Delwedd/Steilydd, Aromatherapydd.

Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.

  • Text books - you will be told about any specific items before you start the course, most text books are available to loan from the college library or online libraries
  • Beauty Therapy kit - this includes the basics you will need during the course and into the future - £121
  • Make-up and brush kit - £167
  • Facial kit - £50
  • Hot stone therapy kit - £180
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 23/01/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Therapi Harddwch
You're viewing: Therapi Harddwch £1,250.00
Add to cart
Shopping cart close