Therapi Tylino Chwaraeon
Therapi Tylino Chwaraeon
Diploma Lefel 3 VTCT mewn Therapi Tylino Chwaraeon (QCF)
Mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra ar gyfer y rhai sy’n dymuno cael gwaith fel therapydd tylino chwaraeon, gan ddarparu ar gyfer y cyhoedd ac athletwyr.
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£695.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn galluogi dysgwyr i feistroli technegau tylino ar lefel o gymhwysedd proffesiynol wrth ymchwilio i wybodaeth ddamcaniaethol hanfodol am ddeinameg y corff mewn perthynas ag anafiadau a datblygiad chwaraeon ac ennill profiad ymarferol sylweddol trwy ein clinig tylino.
Wedi’i anelu at hyfedredd technegol, mae’r cymhwyster hwn wedi’i deilwra ar gyfer darpar Therapyddion Tylino Chwaraeon, gan roi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau technegol sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus, boed yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.
Byddai’n fanteisiol pe bai gennych chi:
- Cymhwyster lefel 2 yn cynnwys elfennau o Anatomeg a Ffisioleg a addysgwyd (fel TGAU Bioleg)
- Byddai profiad tylino blaenorol yn ased ond nid yn hanfodol
- Mae angen tystysgrif Cymorth Cyntaf cyfredol ond ar ddiwedd y cwrs, gellir trefnu hyn ochr yn ochr â’r cwrs os oes angen.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg dwy noson yr wythnos, am 30 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dylech fod â'r gallu corfforol i gwblhau elfennau ymarferol y cwrs hwn
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd cydrannau damcaniaethol y cwrs hwn yn datblygu dealltwriaeth o weithrediad cyhyrau, cymalau, esgyrn, tendonau a gewynnau. Yn ogystal, mae’n archwilio sut mae’r system gardiofasgwlaidd yn ymateb i ofynion chwaraeon a phwysigrwydd y system lymffatig wrth gynnal amgylchedd mewnol iach. Mae maeth hefyd yn rhan hanfodol o’r wybodaeth sylfaenol.
I ategu hyn, mae’r agweddau ymarferol yn cwmpasu ystod o dechnegau tylino wedi’u cynllunio ar gyfer cynhesu, oeri, adsefydlu, tylino digwyddiadau chwaraeon, a hyrwyddo pwysigrwydd chwaraeon. Mae’r cwrs hefyd yn mynd i’r afael â rheoli straen diwydiannol. Er mwyn gwella profiad myfyrwyr, bydd clinig cwbl weithredol a redir gan ddysgwyr yn cynnwys gweithio gyda chleientiaid amrywiol.
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Anatomeg, Ffisioleg ar gyfer Tylino Chwaraeon
- Egwyddorion Iechyd a Ffitrwydd
- Deall Egwyddorion Camweithrediad Meinweoedd Meddal
- Ymarfer Proffesiynol mewn Tylino Chwaraeon
- Triniaethau Tylino Chwaraeon
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Arholiad ar-lein
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall myfyrwyr symud ymlaen i amrywiol yrfaoedd gan gynnwys rolau mewn sbaon iechyd, clinigau a salonau, ymarfer preifat therapi cyflenwol neu hunangyflogaeth o fewn y diwydiant iechyd a ffitrwydd.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Dillad ymarferol/cysurus ar gyfer rhannau o'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim costau ychwanegol
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Hyd: |
