Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Sgiliau Byw’n Annibynnol i Oedolion

Sgiliau Byw’n Annibynnol i Oedolion

ILS Adults Course

Sgiliau Byw’n Annibynnol i Oedolion

Yn dilyn rhaglen anachrededig Colegau Cymru, rydym yn dysgu hanfodion sut i fyw yn annibynnol, sut i ofalu amdanoch eich hun, pwysigrwydd hylendid personol, sut i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, paratoi bwyd a diod syml, a thrin arian.

ID: 50020

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Cwrs sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer oedolion sydd angen cymorth i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fyw’n annibynnol, gwella sgiliau cyflogadwyedd, a pharhau i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Mae ymagwedd realistig yn sicrhau bod anghenion a dyheadau dysgwyr yn cael eu diwallu.

Defnyddir yr offeryn Asesu Sgiliau Cymdeithasol i nodi cryfderau ac i amlygu meysydd i’w datblygu yn y dyfodol. Gosodir targedau i helpu’r dysgwr i ddatblygu medrau newydd.

Mae’r cwrs yn un diwrnod yr wythnos ac yn cynnwys cyfleoedd profiad gwaith bywyd go iawn.

Darllenwch ein canllaw Anghenion Dysgu Ychwanegol Pontio i’r Coleg..

  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course information session or informal interview

Defnyddir yr offeryn Asesu Sgiliau Cymdeithasol i nodi cryfderau ac i amlygu meysydd i’w datblygu yn y dyfodol. Gosodir targedau i helpu’r dysgwr i ddatblygu medrau newydd.

  • Cynhwysiant Cymunedol – Cyrchu rhaglenni cymunedol, codi arian a magu hunan hyder
  • Cyflogadwyedd – Profiad gwaith, trefniadaeth, rheoli amser, gweithio’n annibynnol, gwaith tîm a pharatoi ar gyfer cyfweliad. Hefyd, mae gennym fynediad i weithdy i wella sgiliau ymarferol fel gwaith coed, trwsio cyfrifiaduron sylfaenol, trwsio beiciau, sgwteri a sglefrfyrddau.
  • Annibyniaeth – Teithio’n annibynnol, hunanofal, coginio, rheoli arian, hylendid personol, datrys problemau
  • Iechyd a Lles – Chwaraeon cynhwysol, ymwybyddiaeth gymdeithasol, ffordd o fyw, emosiynau, cyfranogiad cymunedol
  • Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol

Astudir y pynciau canlynol i helpu dysgwyr i gasglu sgiliau bywyd a chymdeithasol gwerthfawr:

  • Celfyddydau Perfformio
  • Menter (gwaith elusennol)
  • Garddwriaeth
  • Chwaraeon
  • Hylendid Personol

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Continuous assessment during the course
  • Practical assessment during the course

Mae gennym bartneriaeth ardderchog gyda Chynghorwyr Gyrfa Cymru ac asiantaethau allanol eraill. Maent, ar y cyd â chynrychiolwyr Pontio’r coleg, yn helpu dysgwyr gyda chyfleoedd addas ôl-coleg. Gall y rhain gynnwys cyngor ar fyw’n annibynnol, cyflogaeth (gwaith gwirfoddol) neu’r camau nesaf i ddatblygu eu haddysg yn y Coleg neu fynychu Canolfannau Gweithgareddau Cymdeithasol i Oedolion.

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • Personal Protective Equipment (PPE) and Clothing, which you can purchase online before you start the course
  • Practical/comfortable clothing for parts of the course
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • There is an annual workshop fee for this course (£20 - £60), payable before you start the course
  • You can rent a locker for £10 per year this will be refunded if the locker remains undamaged and keys are returned
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 06/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close