Tystysgrif Gosodiadau Trydanol

Tystysgrif Gosodiadau Trydanol
Dyfarniad Lefel 3 EAL Mewn Dilysu ac Ardystio Cychwynnol Gosodiadau Trydanol (4337) | Dyfarniad Lefel 3 EAL Mewn Arolygu, Profi ac Ardystio Cyfnodol Gosodiadau Trydanol (4338)
Mae’r cyrsiau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer Gweithredwyr Trydanol cymwys sy’n dymuno gallu archwilio, profi, ardystio a chomisiynu gwaith trydanol.
Sylwch, y dyddiad cau ar gyfer archebion ar gyfer y cwrs hwn yw 2 ddiwrnod gwaith cyn y dyddiad dechrau.
SKU: 1505F7311
MEYSYDD: Adeiladu a Chrefftau, CDP
DYSGWYR: Archebwch Nawr, Dysgwyr sy'n Oedolion
ID: 33332/38193
£650.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys dwy wobr sy’n darparu dealltwriaeth o’r theori a’r ymarfer sy’n gysylltiedig â: dilysu a chomisiynu cychwynnol, ac arolygu cyfnodol, profi ac adrodd ar gyflwr gosodiadau trydanol un cam a thri cham. Mae’r dyfyrniadau yn dilyn BS 7671 a Nodyn Cyfarwyddyd 3 y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) a gydnabyddir gan y Diwydiant a’r Canllawiau Arfer Gorau Swyddi Nodweddiadol gan Electrical Safely First.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer pobl sydd wedi cymhwyso fel trydanwyr gosod, technegwyr trydanol neu beirianwyr.
Gall cyllid Cyfrif Dysgu Personol (PLA) fod ar gael ar gyfer y cwrs hwn (yn amodol ar gymhwysedd). Cliciwch yma am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â central@pembrokeshire.ac.uk
- Bydd angen i chi ddarparu prawf o'r cymwysterau Lefel 3 canlynol - Tystysgrif Dechnegol Gosodiadau Trydanol (EAL 1605, 9331 or City and Guilds 2360, 2361, 2365, 2330, 2357) a 18fed Argraffiad o'r Rheoliadau Gwifro
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Mae’r unedau a astudir yn cynnwys:
- Egwyddorion, arferion a deddfwriaeth ar gyfer dilysu cychwynnol gosodiadau trydanol
- Egwyddorion, arferion a deddfwriaeth ar gyfer archwilio, profi ac adrodd cyfnodol ar gyflwr gosodiadau trydanol
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ar-lein
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Cyfrifiannell wyddonol
- Trowsus gwaith trydanol - £25
- Esgidiau/bwts diogelwch trydanol - £14/£39
- Dim costau ychwanegol
- Efallai y bydd cyllid Cyfrif Dysgu Personol (PLA) ar gael ar gyfer y cwrs hwn (yn amodol ar gymhwysedd). Cliciwch yma am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â central@pembrokeshire.ac.uk
- Mae ffioedd dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Gwybodaeth Ychwanegol
Additional information
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Dyddiad y Cwrs: | Dim dyddiadau ar gael |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/01/2023