Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cynnwys pob plentyn!

Pembrokeshire College Lecturer Sarah King looking at books in the College Library

Mae’r awdur a’r darlunydd angerddol Sarah King yn gosod y bar gyda’i sgiliau ysgrifennu cynhwysol a’i llyfrau darluniadol. Mae Sarah, tiwtor yn y Coleg, yn gweithio’n agos gyda’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi bod yn sbardun i’w hanturiaethau llythrennedd.

 

Cyhoeddwyd llyfr lluniau cyntaf Sarah, “Daisy’s Dreadful Do,” yn 2017 ac ers hynny mae hi wedi ysgrifennu tair nofel lawn i blant dros gyfnod o bedair blynedd.

Eglurodd Sarah y rheswm tu ôl i’r nofelau hudolus hyn, “Fy nymuniad ysgrifennu yw swyno, difyrru, iachau a chysuro plant trwy ysgrifennu cynnwys cynhwysol a doniol iddyn nhw ei ddarllen, ei wylio neu wrando arno.” 

 

Yn ystod cyfnod heriol y pandemig cafodd Sarah covid hirdymor, ond defnyddiodd ei thechnegau ysgrifennu er mantais iddi. 

 

“Fe wnaeth ysgrifennu fy helpu’n fawr iawn ac fe wnes i ei ddefnyddio fel ffordd o ymgolli i gynorthwyo fy adferiad hir ac anodd o covid hir.” 

 

Roedd 2022 yn flwyddyn brysur i Sarah a gymerodd ran yng Nghynhadledd Ysgrifennu i Blant, ‘Wolves and Apples’. Cafodd Sarah lawer o ysbrydoliaeth gan Michael Rosen, Elle McNicholl a llawer o awduron dawnus eraill. 

 

Yn dilyn hyn, mynychodd Sarah y cwrs preswyl wythnos o hyd, ‘Mythau, Ffantasi a Chwedlau Gwerin’ yn Nhŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Llenyddiaeth Cymru. Hwyluswyd hyn gan yr awdur rhyngwladol poblogaidd Marcus Sedgwick, a Catherine Johnson. 

 

Yn dilyn ei hangerdd am ysgrifennu, cyrhaeddodd llyfr Sarah, ‘Saffi’s Super Senses,’ restr fer cystadleuaeth Firefly Press 2022 am y ffuglen plant newydd orau o Gymru. 

 

“A dweud y gwir, do’n i ddim yn gallu credu fy mod i wedi cyrraeddd y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth hon. Dechreuodd fy nhaith ysgrifennu gartref fel prosiect bach hwyliog i mi a fy nheulu. Ro’n i a fy rhieni bob amser yn arfer creu ac ysgrifennu straeon bach hwyliog a daeth yn dipyn o hwyl ro’n i’n arfer ei wneud gyda fy mhlant wedyn.” 

 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae gwaith Sarah wedi’i gyhoeddi yn ‘The Toy’, cylchgrawn llenyddol newydd i blant, ar ‘The Dirigible Balloon’ ac yn y cylchgrawn ‘Soul and Spirit’. 

 

Fodd bynnag, nid yw taith ysgrifennu Sarah yn dod i ben yma. Yn ddiweddar cwblhaodd gomisiwn ar gyfer The Book-Trust, gan ddarlunio a chreu cynnwys amlgyfrwng ar gyfer ‘Amser Rhigwm Mawr Cymru – Big Welsh Rhyme Time 2023’ a gyrhaeddodd 25,000 o blant mewn 550 o ysgolion a lleoliadau yng Nghymru. 

 

Ar hyn o bryd mae Sarah wedi ymuno â ‘The Golden Egg Academy’ fel rhan nesaf o’i thaith ysgrifennu, lle bydd yn gweithio gyda’r golygydd arobryn Imogen Cooper i gwblhau ei nofel ddiweddaraf i blant. 

 

Aeth Sarah ymlaen i ddweud, “Yn y prosiect newydd cyffrous hwn, bydda i’n dathlu cymuned gyffrous, caredigrwydd a goruwchbwerau’r plant sy’n mynychu Canolfan Adnoddau Dysgu ysgol gynradd trwy hud a hiwmor. 

 

“Fy nghyngor i awduron eraill ac unrhyw un sy’n dilyn breuddwyd fawr fyddai, peidiwch â gadael i eraill ddiffinio pwy ydych chi, byddwch yn driw i chi’ch hun a dewiswch eich llwybr eich hun. Cloddiwch yn ddwfn am y penderfyniad a’r ysbryd y bydd eu hangen arnoch, dydy’r lleoedd harddaf byth yn hawdd nac yn gyflym i’w cyrraedd.” 

 

I gael rhagor o wybodaeth am waith Sarah, ewch i’w chyfrif Instagram @pembrokeshirepoet  

Shopping cart close