Mae adran Lletygarwch Coleg Sir Benfro yn meithrin perthynas newydd â Chasgliad Seren i gyfoethogi sgiliau cyflogadwyedd dysgwyr Lletygarwch a gwybodaeth am y diwydiant.
Yn ddiweddar mae adran Lletygarwch Coleg Sir Benfro wedi croesawu’r Cyfarwyddwr Bwytai, Mourad Ben Tekfa a Rheolwyr Bwyty Seren talentog a Chogyddion o Fwyty Coast, Bwyty Grove Arberth a Fernery i arwain dosbarthiadau meistr bwyta godidog. Mae dysgwyr wedi cymryd rhan mewn paratoi seigiau proffesiynol yn y gegin ac wedi dysgu celf origami napcyn a chymysgedd ym Mwyty SEED y Coleg a arweinir gan fyfyrwyr.
Mae dysgwyr lletygarwch hefyd wedi ymweld â Bwyty Coast yn Saundersfoot a’r Grove Arberth i brofi bwyta godidog a gwasanaeth gwych o safbwynt y cwsmer. Yn ystod ymweliad diweddar â’r Grove Arberth, cyflwynodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Grŵp Seren, Thomas Agius Ferrante y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael i ddysgwyr y Coleg trwy Gynllun Prentisiaeth Seren a diwylliant busnes blaengar Casgliad Seren.
Dywedodd Thomas Ferrante, Cyfarwyddwr Grŵp Gweithrediadau Seren:
“Yn Seren, rydyn ni’n frwd dros annog ein timau i gyrraedd eu potensial gyda’n gilydd mewn ffordd organig, tra’n creu profiadau eithriadol i’n holl westeion. Cawn ein hysbrydoli gan Gymru, o’r tirweddau o’n cwmpas i’r cymunedau y mae ein busnesau wedi’u gwreiddio ynddyn nhw. Fel rhan o’n hymrwymiad i weithio gyda phartneriaid lleol cyfrifol sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n hygrededd, rydym wedi cryfhau ein partneriaeth â Choleg Sir Benfro.
“Rydym yn falch iawn o weithio mor agos gyda’r Gyfadran Lletygarwch yng Ngholeg Sir Benfro, gan helpu i gyfoethogi taith addysgol eu dysgwyr trwy ryngweithio parhaus gyda’n timau angerddol a thalentog, yn y ceginau a blaen tŷ.
“Gyda’n gilydd rydyn ni’n gwybod y gallwn ni helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr lletygarwch.”
Bydd y berthynas gydweithredol rhwng Coleg Sir Benfro a Chasgliad Seren yn tanio uchelgais ac yn darparu cyfleoedd gyrfa newydd i ddysgwyr y Coleg yn y sector lletygarwch yn lleol yn Sir Benfro a thu hwnt yng Nghymru. Mae lleoliadau Seren yn cynnwys y gwesty pum seren Grove Arberth, Bwyty Beach House seren Michelin yn Oxwich ar Benrhyn Gŵyr, Bwyty Coast a Chaffi Kiosk yn Saundersfoot, Caffi Cornstore ym Mhenfro a Phenmaenuchaf yn Nolgellau, Gogledd-orllewin Cymru.
Ychwanegodd Christophe Stocker, Darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo:
“Mae tîm Arlwyo Coleg Sir Benfro bob amser yn ceisio cryfhau cysylltiadau â chyflogwyr blaenllaw i wella profiad proffesiynol y myfyrwyr a’u cyflogadwyedd yn y dyfodol.
“Rydym yn teimlo’n falch ac yn ffodus iawn i allu atgyfnerthu perthynas o’r fath gyda Chasgliad Seren.”
Gweler ein cyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo