Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Cystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol NEWYDD

Declan Morrissey

Roedd un deg pedwar dysgwr gwych o Academi Sgiliau Bywyd Coleg Sir Benfro wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau cynhwysol/sylfaen – gyda chwech ohonynt wedi cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol!

I gyrraedd y rowndiau terfynol roedd yn rhaid i’n ’14 Ffab’ gystadlu yn y camau cymhwyso yn erbyn 408 o gystadleuwyr o golegau a darparwyr hyfforddiant ledled y DU.

Mae hyn yn gosod Coleg Sir Benfro ar hyn o bryd yn 5ed ar gyfer nifer y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol cynhwysol y 52 coleg a darparwr hyfforddiant yn y DU a ymgeisiodd.

Eleni rydym wedi bod yn ffodus i gynnwys ein cystadleuaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol arfaethedig yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru 2023. Dyma’r gystadleuaeth sgiliau gyntaf a luniwyd yn benodol ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol ac anableddau sy’n anelu at fyw’n annibynnol. Mae’r gystadleuaeth wedi’i chreu er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr arddangos eu sgiliau mewn nifer o feysydd yn ymwneud â byw’n annibynnol mewn ffordd sy’n gynhwysol a chefnogol. Mae hyn yn ehangu mynediad i fwy o ddysgwyr i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau nad oeddent efallai wedi teimlo bod cystadleuaeth a oedd yn berthnasol i’w maes dilyniant tebygol.

Mae Coleg Sir Benfro yn arwain ar gyflwyno’r gystadleuaeth hon ym mis Ionawr 2023 a bydd yn cynnal nifer o ragbrofion ledled Cymru gyda cholegau partner.

Mae Coleg Sir Benfro hefyd yn falch o fod yn cynnal cystadlaethau Garddwriaeth a Gwaith Coed Cynhwysol 2023 gan roi cyfle i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol ac anableddau arddangos eu sgiliau anhygoel yn y meysydd hyn.

Mae cystadlu mewn Cystadlaethau Sgiliau yn sbardun profedig tuag at gyflogaeth a datblygu sgiliau – mae’n rhoi’r gallu i gystadleuwyr arddangos eu sgiliau mewn lleoliadau realistig, perthnasol ac ymarferol tra’n codi dyheadau a chreu meddylfryd cynnydd.

Mae’r Academi Sgiliau Bywyd wedi cael llwyddiant mawr yn ddiweddar ar lefel Cymru a lefel genedlaethol gyda llawer o fanteision i’r holl ddysgwyr sydd wedi cymryd rhan!

“Mae fy mhrofiadau yn cystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills UK wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi wneud pethau nad oeddwn yn meddwl oedd yn bosibl cyn hyn. Mae fy sesiynau gyda fy hyfforddwr Dave, wedi fy helpu’n fawr iawn ac rwy’n meddwl, trwy wneud hyn, ei fod wedi fy ngwthio i fynd yr ail filltir ac ymroi gant y cant. Rwyf hefyd yn meddwl bod hyn wedi fy helpu i gael lle ar gwrs newydd ym mis Medi. Pe bawn i’n edrych nôl nawr ac yn gweld Declan yn y gorffennol, cyn cystadleuaeth WorldSkills, mae’n debyg y byddwn wedi edrych arno mewn anghrediniaeth a chwerthin a byddwn wedi dweud ‘byth bythoedd’.

“Mae WorldSkills UK wedi newid fy mywyd er gwell a dwi’n meddwl bod ganddo gymaint o gyfleoedd allan yna i helpu pobl ifanc eraill hefyd.” Declan Morrisey – Enillydd Medal Aur Genedlaethol – Y Cyfryngau – Sylfaen 2021 a Rownd Derfynol Genedlaethol yn Datrysiadau TG – Sylfaen 2022.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn y Coleg cysylltwch â Derbyniadau ar 0800 9 776 778 neu ewch i pembrokeshire.ac.uk/courses

Shopping cart close