Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Myfyrwyr Lefel-A y Coleg yn rhagori

Megan Clarke

Ar ôl dwy flynedd o raddau wedi’u hasesu gan ganolfannau, eleni gwelwyd myfyrwyr Lefel-A Coleg Sir Benfro yn sefyll arholiadau am y tro cyntaf ac yn rhagori.

Crynodeb o’r Canlyniadau
Cyfradd lwyddo gyffredinol 99% (cymharydd y DU 98%)
Graddau A*-C 88% (cymharydd y DU 83%)
Graddau A*/A 38% (cymharydd y DU 36%)

Llwyddodd tri deg wyth y cant o fyfyrwyr i ennill graddau A*/A yn erbyn cymharydd o 36% yn y DU, enillodd 88% raddau A*-C (cymharydd y DU 83%) a’r gyfradd lwyddo gyffredinol oedd 99%.

Mae dros 250 o fyfyrwyr Lefel-A a Diploma Estynedig bellach yn obeithiol o sicrhau eu lle mewn prifysgolion gyda phedwar myfyriwr yn mynd i Rydychen a Chaergrawnt, ac un o bob pump yn gohirio eu lle tan 2023. Bydd Cian Phillips (A*A*A*A*), cyn-ddisgybl Ysgol y Castell ac Alexandra Bates (A*A*A*) sy’n fyfyriwr Ysgol Fyw Coleg Sir Benfro, yn cymryd eu lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio Peirianneg a’r Gwyddorau Naturiol yn y drefn honno, tra bydd Megan Clarke (A*A*A*A), gynt o Ysgol Aberdaugleddau, yn un o ddau fyfyriwr sydd wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Rhydychen lle bydd yn astudio Peirianneg Fecanyddol.

Ymhlith y myfyrwyr eraill sydd wedi cyflawni’n uchel y mae cyn-ddisgybl Ysgol Harri Tudur, Rosie Burgham (A*A*A*) sy’n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Optometreg a Benjamin Parr (A*A*A*B), cyn-ddisgybl Ysgol Aberdaugleddau sydd hefyd yn mynd i Gaerdydd i astudio Ffiseg gyda Seryddiaeth.

Yn y cyfamser mae Benjamin Swain (A*A*A*A), cyn-ddisgybl Ysgol Penrhyn Dewi, yn mynd i Brifysgol Caerfaddon i astudio Ffiseg a Tomos Davies (A*A*A*) o Ysgol Bro Gwaun yn mynd i Goleg Imperial. Llundain i astudio Meddygaeth.

Mae myfyrwyr meddygol eraill yn cynnwys Nia Williams (A*A*A*), cyn-ddisgybl Ysgol y Castell, a Mia Childs (A*AAA) cyn-ddisgybl HHVC. Gwnaeth y ddau gais am feddygaeth a chawsant eu gwahodd am gyfweliadau ym mhob un o’r pedair ysgol feddygol o’u dewis, a chawsant hefyd gynigion gan bob un ohonynt. Mae Nia yn mynd i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste a bydd Mia yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Southampton.

Mae cyrchfannau prifysgol myfyrwyr eraill eleni yn cynnwys: Loughborough, Warwick, Bryste, Caerwysg, ac UCL.

Gwelodd y Coleg hefyd fyfyrwyr Diploma Cenedlaethol BTEC yn rhagori gyda llawer o fyfyrwyr yn ennill graddau Rhagoriaeth ac yn cymryd eu lle mewn prifysgolion ledled y DU i astudio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Gwyddor Fiofeddygaeth, Mesur Meintiau, y Gyfraith, Pensaernïaeth Fewnol, Gwneud Ffilmiau ac Ieithyddiaeth.

Ar ôl derbyn canlyniadau Lefel-A eleni, dywedodd Pennaeth y Coleg, Dr Barry Walters: “O ystyried y cefndir i ddysgwyr sefyll eu harholiadau eleni, rydyn ni wrth ein bodd â’u canlyniadau A2 ac AS. Dyma’r tro cyntaf yn eu haddysg iddyn nhw sefyll arholiadau allanol ac roedd y lefelau gorbryder yn uchel, sy’n ddealladwy. Rydyn ni’n hynod falch o’n dysgwyr sydd wedi gweithio’n hynod o galed i ennill y graddau hyn gyda chefnogaeth tîm ymroddedig o staff addysgu a chefnogi.

“Mae nifer sylweddol o’n dysgwyr Lefel-A a galwedigaethol nawr yn symud ymlaen i brifysgolion ar draws y DU, i astudio amrywiaeth eang o raglenni. Rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw i gyd ac yn gobeithio y byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy eu astudiaethau ac i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Roedd Rhodri a Siân Phillips, rhieni Cian sy’n mynd i Gaergrawnt, yn bresennol ar y diwrnod canlyniadau a meddent: “Daeth pob un o’n tri phlentyn i Goleg Sir Benfro ar gyfer eu harholiadau Lefel-A ac roedden ni a’n plant (Rhys, Elin a Cian) yn gwybod taw dyma oedd y penderfyniad iawn iddyn nhw. Roedd y staff mor gyfeillgar ac yn hynod angerddol am y pynciau roedden nhw’n eu dysgu. Cafodd bob un o’n tri phlentyn gefnogaeth dda iawn trwy gydol eu hastudiaethau yn enwedig yn ystod covid ac roedd staff bob amser wrth law i gynnig cymorth a chyngor. Mae ein plant bob amser yn dweud eu bod wedi mwynhau cael eu trin yn fwy fel oedolion a chael ychydig o annibyniaeth lle bo’n briodol, gan ei wneud yn garreg gamu perffaith ar gyfer y brifysgol. Maen nhw wedi gwneud cymaint o ffrindiau gydol oes ac mae yna wir deimlad o gymuned.

“Rydyn ni’n hynod falch o’r tri a aeth ymlaen i astudio Cemeg yng Nghaerdydd, Deintyddiaeth ym Mryste a nawr mae Cian yn mynd i ffwrdd i astudio Peirianneg yng Nghaergrawnt. Allwn ni ddim diolch digon i’r Coleg nid yn unig am gefnogi ein plant ond am fod â gwir ddiddordeb a chred i wireddu eu breuddwydion.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn y Coleg cysylltwch â Derbyniadau ar 0800 9 776 778 neu ewch i colegsirbenfro.ac.uk

Shopping cart close