Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Deugain o beirianwyr y dyfodol yn cofrestru ar raglen dan arweiniad y diwydiant ar gyfer Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy

Destination Renewables Launch Lecture Event Picture

Ddoe, lansiwyd Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy – Destination Renewables, rhaglen arloesol newydd sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi yn y diwydiant ynni adnewyddadwy’r dyfodol, yng Ngholeg Sir Benfro gyda deugain o fyfyrwyr wedi cofrestru. Mae EDF Renewables UK a DP Energy wedi arwyddo Memorandwm Cydweithio gyda Choleg Sir Benfro i ddylunio a chyflwyno’r cwrs dwy flynedd a fydd yn trosglwyddo gwybodaeth sector byd go iawn ac yn llywio teithiau gyrfa ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed.

Dywedodd yr Anrhydeddus Stephen Crabb AS, Aelod Seneddol Preseli Sir Benfro: “Heb os nac oni bai mae’n gyfnod cyffrous i’r sector ynni yn yr Hafan. Mae gweledigaeth glir yn dod i’r amlwg ar gyfer dyfodol carbon isel sy’n cynnwys prosiectau newydd fel gwynt ar y môr a hydrogen. Gyda’i threftadaeth ynni, a’i phwysigrwydd cenedlaethol strategol, mae Sir Benfro mewn sefyllfa dda i fod ar flaen y gad yn y newid i ddyfodol carbon isel.

“Mae ganddo’r potensial i ddod â buddion yn genedlaethol ac yn lleol trwy greu swyddi gwyrdd medrus iawn a chyfleoedd prentisiaeth i bobl Sir Benfro. Rwy’n falch iawn o weld partneriaid yn y diwydiant yn ymuno â Choleg Sir Benfro i gyflwyno rhaglen ynni adnewyddadwy a fydd yn helpu i yrru’r agenda hon yn ei blaen.”

Dywedodd Simon De Pietro, Prif Swyddog Gweithredol DP Energy, am y cytundeb Memorandwm Cydweithio: “Rydym yn falch iawn o fod wedi partneru â Choleg Sir Benfro ac EDF Renewables i lansio’r rhaglen arloesol hon i ysbrydoli ac addysgu gweithlu ynni gwyrdd y dyfodol.”

Yn ogystal â’r partneriaid arweiniol, bydd yr oedolion ifanc yn dysgu oddi wrth amrywiaeth o arweinwyr y sector adnewyddadwy; Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Ynni Morol Cymru, Cyngor Sir Penfro, Regen, ORE Catapult MEECE, Celtic Sea Power, Prifysgol Abertawe, Energy Kingdom, Mainstay Marine, Marine Space, Bombora, Insite, Williams Shipping, Marine Power Systems, TYF, 3DW a Cadno Communications. Bydd y cydweithio hwn gyda diwydiant yn helpu i bontio’r bwlch sgiliau ac arddangos yr ystod amrywiol o yrfaoedd o fewn y sector, gan gefnogi targedau sero net a sicrhau’r buddion rhanbarthol mwyaf posibl.

Dywedodd Ryanne Burges Cyfarwyddwr Alltraeth EDF Renewables: “Nid yw’r achos dros fwy o gapasiti ynni adnewyddadwy erioed wedi bod yn gryfach, gan greu angen yr un mor gynyddol am weithwyr medrus yn ein sector. Yn EDF Renewables UK ac Iwerddon rydym wedi gwneud ymdrechion sylweddol i greu cyfleoedd hygyrch i’r gweithlu lleol i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein prosiectau a sicrhau bod cymunedau lleol yn gallu profi holl fanteision prosiectau seilwaith mor sylweddol sy’n cael eu datblygu oddi ar eu harfordiroedd. Rydym yn falch iawn o fod yn cyflwyno’r rhaglen hon ac yn credu bod Destination Renewables yn un ffordd y gall pobl ifanc gael mynediad at y cyfleoedd gyrfa hyn yn y dyfodol.”

Dywedodd Joshua Thomas, Lefel 3 Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Sir Benfro sydd wedi cofrestru ar Destination Renewables: “Rwyf wedi ymuno â Destination Renewables gan fy mod yn pryderu am newid hinsawdd. Byddwn wrth fy modd yn gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy yn dilyn fy astudiaethau. Rwy’n gobeithio y bydd y cwrs hwn yn fy helpu i sefyll allan. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â busnesau, dysgu sut maen nhw wedi cyrraedd lle maen nhw nawr a darganfod beth sydd angen i mi ei wneud i gyrraedd yno hefyd.”

Gyda ffocws cynyddol ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau cyflenwadau ynni, mae angen dybryd i ddatblygu technolegau adnewyddadwy. Mae EDF Renewables UK a DP Energy wrthi ar y cyd yn datblygu Fferm Gwynt Glas Ar y Môr arnofiol hyd at 1GW yn y Môr Celtaidd ac yn cydnabod bod gweithlu medrus yn rhagofyniad i gyflwyno’r technolegau hyn yn gyflym.

Mae Destination Renewables yn seiliedig ar raglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir ar y cyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, ochr yn ochr â buddsoddiad gan y sector preifat. Bydd Fforwm Arfordirol Sir Benfro yn cefnogi’r diwydiant ynni adnewyddadwy i gyflawni’r bartneriaeth hon rhwng y sector preifat ac addysg er mwyn rheoli safonau cynnwys diwydiant o ansawdd uchel a sicrhau taith gadarnhaol i ddysgwyr.

Shopping cart close