Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Dadorchuddio’r Atriwm

Atrium
Rydyn ni wrth ein boddau i ddadorchuddio ein gofod newydd yn yr atriwm. Wedi’i leoli yng nghanol y Coleg, mae’r hen gwrt wedi’i orchuddio a’i drawsnewid yn ofod ar gyfer cymdeithasu ar y llawr gwaelod, gyda’r atriwm uchaf bellach yn cynnwys lleoedd pwrpasol ar gyfer dysgu yn ogystal â’r ddesg gymorth TG a swyddfeydd newydd. Rydym fel Coleg wedi ymrwymo i fuddsoddi’n barhaus yn ein cyfleusterau i sicrhau ein bod yn gallu cynnig y lleoedd gorau i’n myfyrwyr ddysgu ynddynt a’u paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at wahodd myfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd yn ôl i’r campws cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
Shopping cart close