Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Steilio Eu Ffordd I’r Brig

Holly Maithas and Leah Rees

Yn ddiweddar, enillodd pedwar dysgwr trin gwallt: Holly Mathias, Jenna Kilgallon, Helaina Thomas a Leah Rees, le iddyn nhw eu hunain yng ngham nesaf cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn y Cylchgrawn Gwallt Concept.

Gwahoddwyd yr ymgeiswyr i’r Coleg i ddangos eu gwaith ar gyfer y gystadleuaeth ac yna cyflwyno’u gwaith o bell i feirniaid Concept ym mis Rhagfyr.

Y categorïau ar gyfer y gystadleuaeth oedd: Gwallt Gŵyl, Carped Coch, Siop Barbro Traddodiadol, Dathlu Lliw a Safari.

Roedd y steiliau unigryw yn caniatáu i’r dysgwyr ddangos eu sgiliau steilio gwallt creadigol o blethau i wallt i fyny a chreadigaethau lliw beiddgar.

Roedd Charlotte Jones, darlithydd Trin Gwallt wrth ei bodd gyda llwyddiant y dysgwyr; “Gwnaeth creadigrwydd, ymroddiad a brwdfrydedd yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y gystadleuaeth gymaint o argraff arnon ni i gyd. A hefyd, y myfyrwyr a gefnogodd y ceisiadau yn ystod y dydd a’r modelau a roddodd o’u hamser i gymryd rhan. Dylen nhw i gyd fod yn falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Roedd y canlyniadau yn anhygoel!”

Gweithiodd y myfyrwyr yn unol â rheoliadau COVID gan sicrhau bod yr holl PPE a gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn.

Cyrhaeddodd Holly Mathias dri chategori yn y rowndiau terfynol a oedd yn cynnwys; Steilio Lefel 2 – Thema’r Ŵyl, Gwallt i fyny Lefel 2 – Carped Coch a Avant Garde – Safari.

Rhannodd Holly ei phrofiad: “Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth ‘Concept Hair’, wedi rhoi hwb mawr i fy hyder ac wedi profi bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed. Mae’r gefnogaeth gan staff Coleg Sir Benfro yn rhagorol. Byddwn i’n argymell pawb i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon oherwydd nid yn unig ei fod yn brofiad anhygoel, ond mae wir yn caniatáu i chi feddwl y tu allan i’r bocs a bod mor greadigol ag y gallwch chi! Byddwn i 100% yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon eto.”

Mae Holly yn bwriadu mynd i gyflogaeth llawn-amser pan fydd hi’n cwblhau ei chwrs ac yn gobeithio gweithio un diwrnod ar longau mordeithio neu hyd yn oed fod yn berchen ar ei salon ei hun.

Mae’r cam nesaf yn cynnwys yr ymgeiswyr yn cyflwyno gwaith ffotograffig fel rhan o’r gystadleuaeth ar 12fed Mawrth lle bydd chwech yn cael eu dewis ar y rhestr fer ar gyfer y rowndiau terfynol cenedlaethol a fydd yn cael eu cynnal yn rhithiol ym mis Ebrill.

Shopping cart close