Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Dathlu Merched yn y Diwydiant Adeiladu

Tara Andrews in Carpentry Workshop

Yr wythnos hon mae Coleg Sir Benfro yn dathlu cydraddoldeb rhywiol ar draws eu cyrsiau adeiladu cyn Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Merched yw tua 15% o’r Diwydiant Adeiladu yn y DU yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Disgwylir i niferoedd ar draws y diwydiant godi ymhellach gyda chamsyniadau am rolau sy’n ymwneud â rhyw yn lleihau yn gyffredinol.

Gan ysbrydoli merched i’r diwydiant, mae’r chwiorydd Iona ac Isabella Lake-Jerome wedi bod yn awyddus i hyrwyddo’r pethau cadarnhaol o weithio yn y diwydiant ac i roi diwedd ar y stigma am ferched sy’n gweithio yn y crefftau adeiladu.

Ar hyn o bryd mae Iona yn astudio’r cwrs Trydanol a Phlymio Sylfaen ac mae Isabella wedi symud ymlaen o’r cwrs Lefel 1 Sgiliau Adeiladu i’r cwrs Lefel 2 Bricwaith.

Eglurodd Isabella am ei thaith hyd yn hyn: “Fe es i mewn i fricwaith achos ro’n i eisiau gweithio ar adeiladau treftadaeth a dod yn saer maen.”

Daw Iona ac Isabella o deulu sydd wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ac a gafodd eu hysbrydoli i ddilyn camau eu chwaer hŷn Tara, cyn ddysgwr weldio yng Ngholeg Sir Benfro.

Ychwanegodd Isabella: “Dw i’n teimlo ei bod yn wych bod menyw yn gweithio mewn diwydiant lle gewch chi ddynion yn bennaf. Dw i’n gweld bod staff a chyflogwyr i gyd mor gefnogol. Dw i’n cael fy nhrin fel rhywun cyfartal sy’n wych. Fy nghyngor i fenywod eraill sydd am ymuno â’r diwydiant yw y gallwch chi wneud unrhyw beth pan fyddwch chi’n rhoi eich meddwl i’r peth ac yn profi eich gwerth.”

Mae’r chwaer Iona yn dyheu am weithio gyda phensaernïaeth gynaliadwy rhyw ddydd.

Dywedodd Iona, “Dw i wastad wedi eisiau bod yn drydanwr ac ro’n i eisiau profi bod merched yn gallu gwneud swydd cystal ag y gall trydanwyr gwrywaidd. Mae bod yn ferch mewn diwydiant lle gewch chi ddynion yn bennaf yn rhoi boddhad mawr i mi. Y cyngor y byddwn i’n ei roi i’r merched eraill sydd am ymuno ag unrhyw grefft yw peidio â bod yn swil, ewch allan a dangos i eraill y gall merched wneud y gwaith cystal â dynion, os nad yn well weithiau. Gallwn i roi diwedd ar y stigma sy’n amgylchynu menywod sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae’n ymwneud â’ch set sgiliau nid eich rhyw a dyna’r cyfan sy’n bwysig.”

Mae Libby Montgomery, Prentis Plymio Lefel 2, wedi sicrhau prentisiaeth gyda grŵp ATEB.

“Penderfynais i ymuno â’r diwydiant adeiladu achos dw i ddim yn ferch ystrydebol. Dydy pobl ddim yn disgwyl fy ngweld i’n cerdded i mewn i’w tŷ i drwsio eu sinc neu reiddiaduron, er mae pawb yn synnu ar yr ochr orau i weld merch yn y diwydiant. Yn y dyfodol hoffwn i fod yn beiriannydd nwy/olew cwbl gymwys o bosibl gyda fy musnes fy hun yn helpu merched eraill sydd am ymuno â’r diwydiant. Y cyngor gorau sydd gyda fi i ferched sydd am ymuno â’r diwydiant yw er ei fod yn ddiwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, does dim rhaid iddo fod. Felly ewch amdani, peidiwch â gadael i hynny eich dal nôl. Mae fy nghyflogwr wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi rhoi cyfle gwych i mi fynd allan i ddiwydiant.”

Mae ei chyd-ddysgwr adeiladu, Tara Andrews, yn astudio gwaith coed ac yn un o dair merch ar ei chwrs. Mae hi hefyd yn angerddol am gael mwy o ferched i mewn i’r diwydiant adeiladu.

Dywedodd Tara a fu’n cystadlu’n ddiweddar yng Nghystadlaethau Gwaith Saer Sgiliau Cymru, “Dw i’n dewis astudio yng Ngholeg Sir Benfro achos dw i wedi clywed llawer o bethau gwych. Wrth astudio’r cwrs Gwaith Saer dw i’n teimlo fy mod i’n cael fy nhrin yn gyfartal gan y tiwtoriaid a’r myfyrwyr, a dw i’n ei fwynhau’n fawr. Mae’r cwrs wedi agor cymaint o gyfleoedd i mi ac os rhywbeth, mae wedi rhoi hyder i mi. Dw i’n gyffrous am yr hyn sydd ar y gweill nesaf!”

Mae Tara am gofrestru ar brentisiaeth ar ôl ei chwrs.

 

Dros gyfnod o bum mlynedd mae merched sydd wedi cofrestru ar y cyrsiau adeiladu yn y Coleg wedi dyblu bron o 2.9% yn 2018/19 i 5.7% yn 2022/23.

Dywedodd Pennaeth y Gyfadran Wendy Weber, “Mae’n ymddangos bod cydraddoldeb rhywiol yn y DU wedi dod yn bell iawn dros y ganrif ddiwethaf; serch hynny, mae gyda ni ffordd bell i fynd eto.”

“Mae’n bwysig lledaenu’r gair nad yw gweithio ym maes adeiladu ar gyfer dynion yn unig. Mae mwy a mwy o ferched yn codi gordd, yn chwalu rhwystrau, mae rhai yn mynd i brifysgol, ac mae pob un yn chwalu stereoteipiau rhyw. Os oes gyda ni unrhyw obaith o oresgyn y prinder sgiliau enfawr y mae diwydiant y DU yn ei wynebu, bydd yn dod yn fwyfwy hanfodol i annog merched i ddewis gyrfa ym maes adeiladu.”

I gael gwybod mwy am ein cyrsiau adeiladu

 

Shopping cart close