Mae cydweithio llwyddiannus iawn wedi datblygu rhwng Coleg Sir Benfro ac Ysgol Caer Elen yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn rhoi cyfle galwedigaethol i ddisgyblion Blynyddoedd 10 ac 11 i gofrestru ar gwrs TGAU Peirianneg cyfrwng Cymraeg/dwyieithog.
Eleni, mae’r Coleg wedi croesawu 38 o ddisgyblion ar draws Blynyddoedd 10 ac 11 sy’n gweithio tuag at TGAU CBAC mewn Peirianneg. Nid yn unig y mae wedi rhoi cyfle i’r dysgwyr ehangu eu hastudiaethau, maen nhw hefyd wedi gallu parhau i ddysgu’n ddwyieithog.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Caer Elen, “Ymfalchïwn yn y ffaith ein bod ni yn medru cydweithio gyda Choleg Sir Benfro er mwyn cynnig cyrsiau galwedigaethol pwysig a pherthnasol i’n dysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Golyga hyn ein bod yn paratoi ein dysgwyr ymhellach ar gyfer cyfleoedd gyrfaol pwysig yn Sir Benfro a thu hwnt”.
Mae’r dysgwyr wedi cael eu cefnogi gan dîm o ddarlithwyr Cymraeg eu hiaith gan gynnwys y Rheolwr Maes Cwricwlwm William Bateman, y darlithwyr Jake Mowbray a Morgan Lewis, sy’n siaradwyr Cymraeg rhugl, a hefyd James Roach-John a Rhys Hutton sydd ill dau yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.
Dywedodd Ffion Scourfield, disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Caer Elen, “Rydw i wedi mwynhau’r cwrs dwy flynedd hwn yn y Coleg yn fawr iawn. Mae wedi bod yn brofiad hollol newydd i mi ac yn wahanol iawn i’r ysgol. Rydw i wedi dysgu sgiliau ymarferol yn y gweithdy peirianneg wnes i erioed feddwl y byddwn i’n eu dysgu. Rydw i’n meddwl fy mod wedi bod yn ffodus iawn i gael y cyfle hwn.”
Mae’r TGAU yn gwrs dwy flynedd lle mae’r dysgwyr yn cael eu rhannu 50/50 ar gylchdro wythnosol rhwng ystafell ddosbarth a gweithdy. Yn y dosbarth maen nhw’n datblygu eu sgiliau dylunio, yn dysgu cyfrifiadau peirianneg ac yn creu lluniadau peirianyddol. Tra yn y gweithdy maen nhw’n dysgu sut i ddefnyddio offer llaw, turnau a pheiriannau melino i wneud cydrannau o ddeunyddiau amrywiol. Yn eu blwyddyn olaf, byddan nhw’n rhoi eu sgiliau newydd ar brawf i wneud darn gwaith unigol.
Ychwanegodd Morgan Lewis, Darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Sir Benfro: “Mae’r rhaglen Peirianneg Lefel 2 gyda disgyblion Ysgol Caer Elen wedi profi i fod yn opsiwn galwedigaethol poblogaidd a llwyddiannus iawn. Mae dysgu yn digwydd yn ddwyieithog ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddefnyddio eu gallu dwyieithog mewn cyd-destun galwedigaethol. Mae disgyblion Blwyddyn 11 wedi creu lampau sy’n cael eu gweithredu gyda USB fel rhan o’u prosiect terfynol ac maen nhw i gyd yn falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.”
Dywedodd Emma Clegg, disgybl Blwyddyn 11 ar y rhaglen: “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn pethau sy’n cael eu creu ar gyfer y dyfodol a’r hyn sy’n dod i’r amlwg ym maes peirianneg. Mae’r cwrs Lefel 2 yma wedi bod yn wych. Mae wedi fy mharatoi i fynd ymlaen i astudio Peirianneg Uwch Lefel 3 yma yn y Coleg i allu dilyn gyrfa mewn peirianneg.”
Dywedodd Jake Mowbray, Darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Sir Benfro: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag Ysgol Caer Elen ar gyflwyno TGAU Peirianneg CBAC yn ddwyieithog. Mae’r dysgwyr wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill gwybodaeth ddamcaniaethol o addysgu yn yr ystafell ddosbarth, a phrofiad ymarferol o cynhyrchu cydrannau peirianneg yn y gweithdy mecanyddol. Gall y cyfle i wella sgiliau cyfathrebu Cymraeg a dwyieithog yn benodol i faes peirianneg ond fod o fudd i ddysgwyr yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r dysgwyr wedi datblygu sgiliau gweithgynhyrchu gwerthfawr sy’n eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer symud ymlaen i raglen addysg bellach Lefel 3 ac yna yn arwain at brentisiaeth neu addysg uwch. Edrychaf ymlaen at gwrdd â charfan y flwyddyn nesaf o ddysgwyr peirianneg brwd.”