Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Y cyrchfannau gorau i fyfyrwyr y Coleg

Madeleine Draycott holding results, large a's in background on stairs.

Mae dros 200 o fyfyrwyr Lefel A a Diploma Coleg Sir Benfro yn mynd i rai o’r cyrchfannau prifysgol gorau gan gynnwys Caergrawnt, Meddygaeth Filfeddygol a’r Ysgol Feddygaeth ar ôl cyflawni canlyniadau rhagorol yr haf hwn.

Bydd Madeleine Draycott (A*A*A) sy’n fyfyriwr Lefel-A yn cymryd ei lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio Seicoleg tra bydd Timali Jayathilaka (A*A*A), yn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Meddygaeth.

Mae llwyddiannau Lefel-A hefyd yn cynnwys: Joseph Jenkins (A*A*A*A*), Prifysgol Caerfaddon i astudio Mathemateg a Chyfrifiadureg; Ella McKernan (A*A*A*), Prifysgol Bryste i astudio Cemeg; Jay Coombe (AAA), Prifysgol Bryste i astudio Biocemeg; Jasmine Morris (AAB), Prifysgol Nottingham i astudio Niwrowyddoniaeth a Seicoleg; a Leon Delaney (A*AA), Prifysgol Abertawe i astudio Peirianneg Fecanyddol.

Mae cyrchfannau prifysgol myfyrwyr Lefel-A eraill yn cynnwys: Caerlŷr, Durham, Caerwysg, King’s College Llundain, a Lerpwl.

Gan brofi bod y llwybr Diploma yn ddewis credadwy yn lle Lefel-A, enillodd Anya Thomas, sy’n fyfyriwr Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC, raddau Rhagoriaeth* ac mae’n mynd i Brifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn i astudio Meddygaeth Filfeddygol tra bod Amy Wilson, a enillodd raddau Rhagoriaeth* hefyd, yn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Pensaernïaeth.

Mae llwyddiannau galwedigaethol eraill yn cynnwys Evie Berridge sy’n mynd i Goleg Celfyddydau Perfformio Stella Mann i astudio Perfformio a Dawnsio Proffesiynol a Ciaran Craig sy’n mynd i Brifysgol Swydd Gaerloyw i astudio Gwyddor Barafeddygol. Mae myfyrwyr Diploma eraill yn cymryd lleoedd mewn prifysgolion ledled y DU i astudio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Nyrsio, Troseddeg, Animeiddio a VFX, Meddygaeth Filfeddygol, Seiberddiogelwch a Gwyddoniaeth Fforensig.

Ar ôl derbyn canlyniadau eleni, dywedodd Pennaeth y Coleg, Dr Barry Walters: “Rydym yn hynod falch o’n dysgwyr Lefel-A a’n myfyrwyr galwedigaethol sydd wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau eu lle yn y brifysgol.

“Gwelodd cyfnod yr arholiadau lefelau o orbryder mawr ond mae dyfalbarhad ac ymrwymiad ein myfyrwyr, gyda chefnogaeth tîm eithriadol o staff addysgu a staff cymorth, wedi talu ar ei ganfed gyda mwy na 200 o ddysgwyr bellach yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y DU, i astudio amrywiaeth eang o gyrsiau.

“Mae ein canlyniadau ar yr un lefel â’r cyfartaleddau cenedlaethol ac yn uwch na’r cymharydd cenedlaethol ar gyfer graddau A*. Cyflawniad anhygoel i’n myfyrwyr ac un a fydd, gobeithio, yn eu rhoi ar ben ffordd ar gyfer eu hastudiaethau prifysgol.

“Rydym yn dymuno pob lwc i bob un ohonyn nhw ac yn gobeithio y byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy eu hastudiaethau ac ymlaen i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn y Coleg cysylltwch â Derbyniadau ar 0800 9 776 778 neu ewch i colegsirbenfro.ac.uk

Shopping cart close