Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Dysgwyr Creadigol yn Arddangos Sgiliau Cyfryngau

Dysgwyr Cyfryngau Creadigol yn arddangos sgiliau fideo rhagorol mewn cystadleuaeth flynyddol Diogelwch ar y Ffyrdd

Mae’r Gystadleuaeth Diogelwch ar y Ffyrdd yn fenter flynyddol rhwng Coleg Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro sy’n herio myfyrwyr i gynhyrchu ffilm neu animeiddiad 45 eiliad sy’n tynnu sylw at un o’r ‘5 achos angheuol’ gwrthdrawiadau traffig. Mae’r ffilmiau hyn i’w gweld yn ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Penfro gyda’r nod o hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a lleihau anafiadau a marwolaethau ar ffyrdd lleol.

Dywedodd Sally Jones, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda myfyrwyr y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg Sir Benfro unwaith eto ar gyfer ein cystadleuaeth cyfryngau Diogelwch ar y Ffyrdd blynyddol.

Gweithiodd yr holl fyfyrwyr yn galed iawn a gwnaeth argraff ar y beirniaid gyda’u fideos unigryw ac arloesol i hyrwyddo’r ‘Fatal 5’. Cyflwynodd yr enillydd, Silas, fideo effeithiol iawn yr edrychwn ymlaen at ei rannu trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.”

Rhoddwyd siec o £100 i’r enillydd, Silas Roberts, am ei fideo “Stay Alive! Don’t Drive Distracted”, sy’n pwysleisio peryglon tecstio wrth yrru. Dywedodd Silas, “Rwy’n falch iawn bod y cleient wedi hoffi fy fideo. Roeddwn i eisiau creu rhywbeth syml a fyddai’n cyfleu’r neges yn glir ac mae’r ffaith fy mod wedi cael fy newis fel y cais buddugol yn dangos fy mod wedi llwyddo i gyflawni hynny”. Derbyniodd yr ail safle, Sabrina Semaani-Rodriguez a Taya Fouracre, daleb Amazon gwerth £50 yr un.

Mae’r gystadleuaeth hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i ddysgwyr arddangos eu sgiliau cynhyrchu cyfryngau wrth gynyddu eu hymwybyddiaeth o arferion diogelwch ar y ffyrdd.

Ychwanegodd darlithydd y cwrs, Denys Bassett-Jones: “Rwy’n falch iawn o ganlyniad y gystadleuaeth flynyddol hon. Bob blwyddyn mae’r safon yn mynd yn uwch ac yn uwch, ac mae’r myfyrwyr bob amser yn llwyddo i fy rhyfeddu gyda’u syniadau. Mae gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro yn rhoi cyfle i’r dysgwyr weithio ar brosiect byr byw a chael profiad yn y byd go iawn wrth ddelio â chleient. Mae’r mathau hyn o gyfleoedd yn rhan sylfaenol o addysg greadigol yng Ngholeg Sir Benfro”.

Shopping cart close