Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Gweithio Mewn Partneriaeth O Fudd I Ddiwydiant

Students in Brick Workshop

Er bod y pandemig yn cyflwyno sawl her i fusnesau ac addysg, sicrhaodd gweithio mewn partneriaeth rhwng Coleg Sir Benfro a Chymdeithas Amaethyddol Sir Benfro fod mwy na 200 o ddysgwyr yn gallu cwblhau eu cymwysterau adeiladu er gwaethaf y cyfnodau clo a’r gofynion ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.

Ym mis Chwefror eleni, pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg y gallai cyrsiau masnach mewn peirianneg ac adeiladu ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, yr her oedd sut i ddarparu ar gyfer dysgwyr o ystyried y cyfyngiadau pellhau cymdeithasol yr oedd angen eu dilyn.

Roedd y cyfyngiadau ar y pryd yn golygu na allai dysgwyr bellach fod mewn ‘swigod’ gan leihau capasiti mewn llawer o weithdai’r Coleg i chwarter. Golygai hyn mai dim ond unwaith bob pedair wythnos y byddai dysgwyr yn gallu mynychu tra bod y trefniadau pellhau cymdeithasol yn parhau yn eu lle. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, ffurfiodd Coleg Sir Benfro bartneriaeth â Chymdeithas Amaethyddol Sir Benfro (PAS) i agor cyfleuster dros dro ar faes y sioe yn Llwynhelyg. Cymerodd trosi adeilad 2,500m2 Camrose yn weithdy gwaith brics a Neuadd Brithdir fel man ychwanegol ar gyfer gweithgareddau dysgu, bythefnos yn unig o’r trafodaethau cychwynnol i agor y drysau i’r dysgwyr cyntaf.

Dywedodd Pennaeth Cyfadran Peirianneg ac Adeiladu yn y Coleg, Arwyn Williams, a arweiniodd ar y prosiect: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r PAS am fod yn bartner gyda ni ar y prosiect hwn. Arweiniodd eu hymateb cyflym at dros 200 o fyfyrwyr yn gallu cwblhau eu cymhwyster o fewn y flwyddyn academaidd, rhywbeth na allem fod wedi’i gyflawni heb y gofod gweithdy ychwanegol. Fe wnaeth symud bricio i fyny i faes y sioe ein galluogi i drosi ein gweithdy brics ein hunain yn ofod ychwanegol ar gyfer gwaith saer a phlymio gan alluogi’r nifer uchaf o ddysgwyr i fynychu’r Coleg bob dydd.

Dywedodd Arwyn: “Gyda dros 1,000 o ddysgwyr yn astudio peirianneg ac adeiladu yn y Coleg, mae’r gefnogaeth a gawsom gan gwmnïau a sefydliadau lleol fel y PAS wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu ein dysgwyr i gyflawni eu cymwysterau a symud ymlaen i gyflogaeth yn yr hyn a fu’n blwyddyn eithriadol.

Dywedodd Mr Mike Davies, Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu helpu dysgwyr i gwblhau eu cymwysterau yn ystod cyfnod y pandemig ac edrychwn ymlaen at waith partneriaeth parhaus gyda’r Coleg yn y dyfodol.”

Gwnaed agor y cyfleusterau ychwanegol yn bosibl diolch i Lywodraeth Cymru a wnaeth sicrhau bod cronfa ariannu o dros £23m ar gael i helpu holl golegau Cymru i ailagor eu drysau i ddysgwyr mewn modd diogel.

Shopping cart close