Mae Coleg Sir Benfro wedi penodi Iwan Thomas, Prif Swyddog Gweithredol PLANED, fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Corfforaeth yn ddiweddar.
Cymerodd Iwan rôl y Cadeirydd yn swyddogol ar 1 Awst 2021 ar ôl ymuno â’r Bwrdd yn 2019. Mae Iwan yn cymryd y llyw oddi wrth Caroline Oakley, cyn Gyfarwyddwr Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a oedd wedi dal y swydd am y pedair blynedd diwethaf. Hoffai’r Coleg fynegi eu diolch diffuant am ei harweiniad cryf a’r gefnogaeth y mae hi wedi dangos i’r Coleg, y staff a’r dysgwyr, trwy gydol ei hamser fel Cadeirydd.
Yn dilyn blwyddyn o heriau sylweddol i’r sector addysg oherwydd y pandemig byd-eang, mae Iwan yn edrych ymlaen at ei rôl newydd a dywedodd: “Mae cymryd y rôl allweddol hon ar yr adeg benodol hon yn fraint enfawr a hefyd yn her. Bydd parhau i gefnogi ein dysgwyr a’n staff wrth i ni ddod allan o’r pandemig, ond eto bydd sicrhau bod pawb yn ddiogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Fodd bynnag, bydd gosod y Coleg ar flaen y gad yn nhermau ei effaith economaidd-gymdeithasol ehangach trwy ddatblygu sgiliau, ei gefnogaeth a’i waith partneriaeth â busnesau, cymunedau ac eraill, yn allweddol i’m ffocws fel Cadeirydd.”
Yn eiriolwr angerddol dros gefnogi cymunedau trwy ddatblygu sgiliau a hyrwyddo menter, mae gan Iwan brofiad uniongyrchol o ddatblygu model y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ledled Cymru, a sicrhau canlyniadau cynaliadwy, yn enwedig i bobl ifanc mewn cymunedau.
Mae Iwan hefyd wedi eistedd ar ac wedi arwain nifer o Fyrddau, gan gynnwys bod yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Gwyddoniaeth Gogledd Cymru am dair blynedd, gyda chyfrifoldeb am redeg Techniquest Glyndwr yn Wrecsam; yn Ymddiriedolwr Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug; a hefyd Aelod o Fwrdd Cynghori Consortia Ysgolion Gogledd Cymru – GwE.
Dywedodd Dr Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro: “Rwyf wrth fy modd gyda phenodiad Iwan Thomas yn Gadeirydd Bwrdd y Gorfforaeth ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r gwaith a wnaeth Caroline Oakley dros y pedair blynedd diwethaf a diolch iddi am ei chefnogaeth yn ystod ei thymor fel Cadeirydd y Corff Llywodraethol.”