Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Prentis yn rhoi rhodd bywyd

Samuel Davies

Yn ddiweddar, daeth Prentis Peirianneg Bwyd a Diod, Samuel Davies, yn Rhoddwr Bôn-gelloedd llwyddiannus trwy Elusen Anthony Nolan.

Wedi’i sefydlu ym 1974 mae Elusen Anthony Nolan yn cynnig ail gyfle o fywyd trwy rodd bôn-gelloedd.

Ymunodd Samuel â chofrestr bôn-gelloedd Anthony Nolan pan oedd yn ddwy ar bymtheg ar ôl gweld hysbyseb. Wrth i amser fynd heibio ni feddyliodd Samuel fwy amdano tan y llynedd pan dderbyniodd alwad yn gofyn a allai roi rhai samplau gwaed i gadarnhau cyfatebiaeth bosibl. Gan symud ymlaen at fis Mai eleni, derbyniodd Samuel alwad ffôn arall yn gofyn am samplau gwaed pellach ac yn fuan ar ôl hynny, cadarnhawyd ei fod yn cyfateb i rywun â chanser y gwaed.

Yna teithiodd Samuel i UCH Llundain i gael archwiliad meddygol, ac yna’n ddiweddarach fe wnaeth a roi trwy gasgliad llif gwaed ymylol. Mae’r dull casglu hwn yn cynnwys caniwla ym mhob braich lle mae gwaed yn cael ei dynnu allan trwy un fraich, ei hidlo am y bôn-gelloedd ac yna ei ddychwelyd i fraich arall y rhoddwr. Cymerodd y broses hon tua saith awr o’r dechrau i’r diwedd gydag ychydig iawn o sgîl-effeithiau.

Ochr yn ochr â hyn, mae Samuel hefyd wedi codi £820 i’r elusen a oedd yn cynnwys rhodd hael gan Puffin Produce, lle mae Samuel yn gweithio fel prentis ar hyn o bryd.

“Mae Anthony Nolan yn elusen wych, ac maen nhw’n talu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â’r rhodd feddygol, er enghraifft unrhyw amser di-dâl i ffwrdd o’r gwaith, bwyd, teithio ac ati. Maen nhw’n gwaeddu allan am fechgyn ifanc 16-24 oed i gofrestru, felly byddwn i’n dweud wrth unrhyw un, os ydych chi’n feddygol abl, gwnewch hynny! Mae pawb yn cael eu geni gyda’r gallu i ddylanwadu ar fywydau pobl eraill ond mae rhoi bôn-gelloedd yn rhoi’r cyfle i chi achub bywyd rhywun arall, a dyna’r teimlad gorau yn y byd.” meddai Samuel.

Mae Samuel yn gobeithio bod yn beiriannydd yn llawn amser ar ôl iddo orffen ei brentisiaeth gyda Puffin Produce.

Dywedodd aseswr Samuel, Mike Ashworth, pa mor ysbrydoledig yw Samuel: “Mae Samuel wedi creu argraff arnaf gyda’i gyflawniadau academaidd, a’i foeseg waith yn Puffin. Mae ei rhodd bôn-gelloedd i Ymddiriedolaeth Anthony Nolan a’i ymdrechion codi arian yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae’n bleser pur gweithio ag ef.”

Mae elusen Anthony Nolan wrthi’n chwilio am roddwyr yn enwedig gan fechgyn ifanc 16-24 oed. I ddarganfod mwy ewch i: www.anthonynolan.org

Shopping cart close