Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Lansio Cynllun Prentisiaeth Iechyd A Gofal Cymdeithasol

Health & Social Care Apprenticeship Scheme Launched

Mae Coleg Sir Benfro yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Penfro sy’n lansio rhaglen brentisiaeth bwrpasol gyda’r nod o gynyddu nifer y bobl sy’n ymuno â’r proffesiwn gofalu.

Bydd Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai y Cyngor yn recriwtio hyd at wyth prentis trwy’r rhaglen a fydd yn rhoi cyfleoedd gwaith i bobl ifanc mewn gyrfa sy’n rhoi llawer o foddhad.

Fel rhan o’r rhaglen bydd prentisiaid yn ymgymryd â dau leoliad dros gyfnod o 18 mis ar draws Cartrefi Preswyl, Canolfannau Dydd, Ailalluogi a Thîm Lles Cymunedol ac Annibyniaeth y Cyngor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tessa Hodgson: “Mae’n wych gweld y Cyngor yn cymryd camau rhagweithiol i ddenu pobl ifanc i waith gofal cymdeithasol gyda’r rhaglen brentisiaeth hon, gan eu gosod ar y llwybr i yrfa werth chweil sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl yn ein cymuned.

“Mae prentisiaeth yn ffordd wych o gael eich cyflwyno i yrfa ac i ddysgu ac astudio yn y swydd.”

Ochr yn ochr â’r lleoliadau, bydd y prentisiaid yn cael eu cefnogi gan raglen ddatblygu sy’n cynnwys rhaglen sefydlu, cyfeiriadedd yn y rôl, cael cymorth mentor, ymgymryd â chymhwyster Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cyflawni cofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ac ymgymryd â gweithgareddau datblygu ychwanegol gan gynnwys sgiliau cyfweld, sgiliau cyfathrebu a mwy.

Y nod, ar ddiwedd y rhaglen, fydd i’r prentisiaid fod yn barod am rôl o fewn y Tîm Lles ac Annibyniaeth Cymunedol (gofal cartref).

Dywedodd Jason Bennett, Pennaeth Gofal Oedolion, Gofal Cymdeithasol a Thai y Cyngor: “Rwy’n falch iawn o weld lansiad y rhaglen Prentisiaeth Gofal Cymdeithasol. Mae hyn yn gyfle cyffrous i bobl gychwyn ar eu taith ar yrfa werth chweil mewn Gofal Cymdeithasol.

“Bydd cychwyn gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn y ffordd yma yn agor ystod eang o gyfleoedd datblygu yn y dyfodol, sicrwydd swydd, ac yn cynnig cyfle i bobl wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Bydd recriwtio ar agor tan ddiwedd mis Awst gyda’r garfan gyntaf i fod yn ei lle erbyn canol mis Hydref.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â: sara.colwill@pembrokeshire.gov.uk

Shopping cart close