Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy Cymru yn y Senedd

Competitors in the Senedd wearing hoodies and Vaughan Gething is centre

Yn ddiweddar cymerodd myfyrwyr Coleg Sir Benfro ran mewn cystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy Sgiliau Cymru, a gynhaliwyd gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, a ddaeth â myfyrwyr coleg o bob rhan o Gymru ynghyd.

Wedi’i drefnu gan Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, mae Gwynt Glas (partneriaeth rhwng EDF Renewables UK a DP Energy), yn falch o fod wedi noddi’r gystadleuaeth am yr ail flwyddyn yn olynol.

Gwelodd y Gystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy bum tîm o golegau ledled Cymru yn datblygu datrysiad ynni adnewyddadwy ar gyfer penrhyn ffuglennol yng Nghymru sy’n dibynnu ar eneraduron diesel sy’n heneiddio. Cafodd pob tîm y cyfle i ofyn am gyngor arbenigol gan dîm Gwynt Glas a oedd yn gweithredu fel ymgynghorwyr, i brofi a gwneud y gorau o hyfywedd eu datrysiadau arfaethedig.

Dywedodd Logan Russ, myfyriwr Coleg Sir Benfro a gymerodd ran yn y gystadleuaeth:

“Roedd cymryd rhan yn yr her sgiliau ynni adnewyddadwy hon yn bleserus ac yn fuddiol dros ben. Rwyf wedi mynd â’r sgiliau a’r wybodaeth werthfawr y byddaf yn ddi-os yn eu cario gyda mi mewn unrhyw yrfaoedd yn y dyfodol, ac wedi cael profiad gwych na fyddaf yn ei anghofio.”

Ychwanegodd Arwyn Williams, Pennaeth y Gyfadran yng Ngholeg Sir Benfro, a threfnydd y gystadleuaeth:

“Mae’r gystadleuaeth hon yn codi ymwybyddiaeth o rôl bwysig cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac yn helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant. Rydym yn ddiolchgar i Gwynt Glas am eu cefnogaeth ac yn gobeithio y bydd y gystadleuaeth hon yn parhau i fagu momentwm.”

Ochr yn ochr â’r gystadleuaeth, cynhaliwyd trafodaeth ‘Dyfodol Sero Net mewn Addysg Bellach’ i archwilio sut y bydd sgiliau a hyfforddiant yn cefnogi taith Cymru i sero net. Roedd y ford gron yn amlygu’r rôl hollbwysig y bydd Addysg Bellach yn ei chwarae wrth gyflawni’r nodau hyn.

Dywedodd Mark Hazelton, Cyfarwyddwr Prosiect Gwynt Glas:

“Rydym yn falch iawn o noddi’r Gystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy. Mae’r digwyddiad hwn yn cyd-fynd â’n hymrwymiad i ddod o hyd i atebion ynni cynaliadwy a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar y sector ynni adnewyddadwy sy’n tyfu. Rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli dysgwyr ifanc i ddilyn llwybrau gyrfa sy’n cyfrannu at ddatgarboneiddio Cymru.”

Mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o ddarparu gwell sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i newid bywyd i bobl ifanc yng Nghymru, gan gyfrannu at ffyniant Cymru gyfan.

Shopping cart close