Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Curo Rhythm mewn Gweithdy Drymio Ysbrydoledig

Lox with childcare learners patting on drums

Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr Gofal Plant Coleg Sir Benfro gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy drymio cyfareddol dan arweiniad Lox, lle buon nhw nid yn unig yn ymchwilio i rythmau bywiog drymiau Affricanaidd ond hefyd yn cael cipolwg ar ymdrechion dyngarol Lox trwy ei elusen, ‘Love Your Neighbour’.

Roedd y gweithdy yn cynnig profiad trochi i fagwraeth Lox yn Kenya, lle roedd drymiau nid yn unig yn offerynnau ond yn elfennau annatod o’r diwylliant a’r gymuned. Trwy drafodaethau difyr, rhannodd Lox ei daith gan daflu goleuni ar y gwaith effeithiol y mae ei elusen yn ei wneud, yn enwedig wrth gefnogi prosiectau cymdeithasol ac addysgol yn Kilfi, Kenya.

Mynegodd Lauren Owen, darlithydd Gofal Plant yng Ngholeg Sir Benfro, ei brwdfrydedd am y sesiwn, gan ddweud,

“Yn ystod ein sesiwn gyda Lox, ro’n ni’n gallu dysgu am bwysigrwydd cerddoriaeth yn ein bywydau ac arwyddocâd cynnig cyfleoedd cerddorol i blant. trafod rôl cerddoriaeth mewn hunanfynegiant, dathlu a chydlyniant cymunedol.”

Adleisiodd y myfyrwyr y teimlad hwn, gan bwysleisio gwerth ymgorffori cerddoriaeth yng ngweithgareddau datblygiadol y plant. Dywedodd un myfyriwr,

“Rhoddodd y sesiwn gymaint i ni feddwl amdano – gwerthfawrogi cerddoriaeth fel offeryn datblygiadol allweddol i blant, yn ogystal ag ystyried yr effaith ehangach y gall cerddoriaeth ei chael arnon ni i gyd. Diolch yn fawr iawn Lox.”

Roedd y gweithdy nid yn unig yn darparu llwybr ar gyfer cyfnewid diwylliannol ond hefyd yn rhoi cipolwg ymarferol i fyfyrwyr ar ymgorffori cerddoriaeth yn eu harferion gofal plant. Dysgon nhw rythmau cerddorol allweddol ac archwilio ffyrdd o integreiddio cerddoriaeth ar gyfer datblygiad cyfannol plant, gan feithrin creadigrwydd, mynegiant a rhyngweithio cymdeithasol.

At hynny, roedd trafodaethau ar y rhwystrau i addysg a wynebir gan bobl ifanc yn Kenya yn cynnig persbectif ehangach ar heriau byd-eang a rôl addysg wrth feithrin newid cadarnhaol.

I ddarganfod mwy am y cyrsiau Gofal Plant a gynigir yn y Coleg.

Shopping cart close