Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Mynd Yr Ail Filltir Ar Gyfer Iechyd Meddwl: Her Brit 2021

BRIT 2021 Challenge Logos

Mae staff a myfyrwyr Coleg Sir Benfro yn ymuno â cholegau a phrifysgolion o bob rhan o’r DU fel rhan o Her BRIT 2021 – her codi arian i gefnogi iechyd meddwl oedolion ifanc.

Coleg Sir Benfro yw’r coleg cyntaf yng Nghymru i ymuno â’r her. Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ysbrydoli Prydain (BRIT), mae’r Coleg yn gwahodd yr holl staff a myfyrwyr i ymuno â thîm a chymryd yr her o gerdded, loncian, rhedeg, beicio, beicio â llaw neu wthio cadair olwyn 2021 o filltiroedd a chodi £2,021 erbyn 1af Gorffennaf.

Mae BRIT yn gobeithio, gyda chymorth y 450 o golegau a phrifysgolion yn y DU, y byddan nhw’n codi mwy na £1 miliwn ar gyfer elusennau iechyd meddwl pobl ifanc ac ar yr un pryd yn gwella iechyd meddwl a chorfforol pawb sy’n cymryd rhan yn yr her.

Daeth y darlithydd Paratoi Milwrol, Andrew Desborough â’r her i sylw’r Coleg a dywedodd: “Fel tiwtor cwrs y Cwrs Paratoi Milwrol yng Ngholeg Sir Benfro, rydw i wedi ennill digon o brofiad o’r heriau addysgu a dysgu sy’n gysylltiedig â COVID-19 pandemig. Yn ogystal, mae ‘cyfnodau clo’ wedi gwaethygu heriau iechyd meddwl i lawer o bobl; teimladau cynyddol o gorbryder, unigedd ac ofn. Rydw i’n gweld Her BRIT 2021 fel cyfle gwych i’n dysgwr a’n cymuned staff weithio gyda’i gilydd i wella nid yn unig eu hiechyd corfforol ond hefyd eu hiechyd meddwl.

“Er gwaethaf y dyfodol gobeithiol, mae dal ansicrwydd ynghylch yr hyn a ddaw yn sgil 2021, a bydd y digwyddiad codi arian hwn yn bendant yn rhoi cyfle i gymuned ein Coleg weithio gyda’i gilydd mewn menter gyffrous a chynhwysol. Mae eisoes wedi dwyn ynghyd ddysgwyr presennol a blaenorol mewn timau cyfun; yn cymell ei gilydd a chydweithio er gwell.

“Rydyn ni wir wedi croesawu Her BRIT 2021 fel y gall Coleg Sir Benfro gyfrannu at godi arian hanfodol ar gyfer elusennau iechyd meddwl.” #RaiseHopeChangeLives

Mae Coleg Sir Benfro bellach yn gobeithio y bydd colegau eraill yng Nghymru yn ymgymryd â’r her mewn ymdrech gyfun i gefnogi iechyd meddwl a lles ein pobl ifanc wrth godi arian ar gyfer: Papyrus, Student Minds, Nightline Association, Ymddiriedolaeth Charlie Waller ac Ymddiriedolaeth Ysbrydoli Prydain.

Gallwch ddilyn cynnydd staff a myfyrwyr, ynghyd â rhoi i’r ymdrech codi arian, ar ein gwefan.

I gael mwy o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Ysbrydoli Prydain ewch i: www.britishinspirationtrust.org.uk neu i ddarganfod mwy am Her BRIT 2021 ewch i: www.thebritchallenge.org.uk

Shopping cart close