Mae Luciana Ciubotariu, cyn Bennaeth Masnach a Buddsoddi Thames Freeport ac sydd bellach yn Brif Weithredwr Y Porthladd Rhydd Celtaidd, wedi derbyn rôl Noddwr Cynghrair SPARC. Mae Luciana wedi llwyr ymrwymo i rymuso merched ifanc, yn enwedig mewn sectorau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac mae’n edrych ymlaen at gydweithio â’r holl randdeiliaid i sicrhau llwyddiant parhaus y fenter hon.
Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wrth galon yr economi werdd yn ne orllewin Cymru a bydd yn cyflymu arloesedd a buddsoddiad, yn enwedig mewn seilwaith porthladdoedd ac ynni cynaliadwy.
Nod Cynghrair SPARC, a sefydlwyd fis Gorffennaf diwethaf gan Goleg Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro, gyda chymorth sylweddol gan RWE, Blue Gem Wind, Floventis (Cierco Energy), Ledwood Engineering, Porthladd Aberdaugleddau, a Chronfa Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yw ymgysylltu merched ifanc mewn gyrfaoedd STEM.
Un o flaenoriaethau allweddol Y Porthladd Rhydd Celtaidd yw datblygu’r agenda sgiliau i baratoi’r rhanbarth ar gyfer twf, gan gynnwys mynd i’r afael â gwahaniaethau rhwng y rhywiau yn y sectorau peirianneg ac adeiladu. Mae SPARC ar fin chwarae rhan ganolog wrth greu cyflenwad teg o dalent sy’n bodloni gofynion y diwydiant dros y 10 mlynedd nesaf.
Dywedodd y cyd-arweinyddion, Hayley Williams (Coleg Sir Benfro) a Rob Hillier (Cyngor Sir Penfro), “Rydyn ni wrth ein bodd i gael Luciana fel wyneb Cynghrair SPARC. Nid yn unig y mae hi’n fodel rôl ysbrydoledig i fenywod ifanc, mae ei harbenigedd hefyd yn amhrisiadwy wrth lywio datblygiad SPARC. Gyda chynnydd ar fin digwydd mewn swyddi gwerth uchel, bydd cefnogaeth Luciana yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent benywaidd i gyfrannu at ein rhanbarth a ffynnu ynddi.”
I gael rhagor o wybodaeth am Gynghrair SPARC cysylltwch â: h.williams@pembrokeshire.ac.uk