Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Rhaglen Coleg Ynni Adnewyddadwy a Arweinir gan y Diwydiant yn Ennill Gwobr Genedlaethol Ynni Gwynt ar y Môr

Two staff members holding award.

Mae rhaglen unigryw o’r enw ‘Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy – Destination Renewables’, sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer y farchnad swyddi ynni adnewyddadwy, wedi cipio genedlaethol, sef ‘Gwobr Sgiliau Ynni Gwynt ar y Môr’, ar gyfer tîm prosiect gwynt arnofiol Gwynt Glas, y sbardun y tu ôl i’r fenter newydd hon. Yng Ngwobrau Gwynt Ar y Môr cyntaf Renewables UK ar 25 Hydref yn Llundain, cafodd Destination Renewables ei ganmol gan feirniaid RUK fel y math o fenter sy’n helpu i osod y sylfeini ar gyfer gweithlu’r diwydiant yn y dyfodol.

Fel rhan o’u hymrwymiad i ddatblygu a recriwtio talent leol, ymunodd EDF Renewables UK a DP Energy, y bartneriaeth fuddugol y tu ôl i brosiect Gwynt Glas yn y Môr Celtaidd, â Choleg Sir Benfro i lansio Destination Renewables, rhaglen dwy flynedd ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed.

Dywedodd Claire Gilchrist, Rheolwr Prosiect Gwynt Glas, EDF Renewables UK:
“Roedd yn anrhydedd i mi dderbyn y wobr gyda Hayley Williams o Goleg Sir Benfro ar ran tîm y prosiect, ac wrth gwrs yr holl bartneriaid diwydiant a gymerodd ran. Heb eu cefnogaeth, ni fyddai’r rhaglen hon yn bosibl.”

Yn yr un wythnos, roedd Gwynt Glas hefyd yn rownd derfynol seremoni Gwobrau STEM Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd. Mae Gwobrau STEM Cymru yn tynnu sylw at fusnesau sy’n cael effaith ar economi Cymru, y rhai sy’n mynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth STEM a phrinder sgiliau, a’r rhai sy’n ysbrydoli ac yn codi dyheadau’r genhedlaeth nesaf.

Mae Destination Renewables yn seiliedig ar raglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir ar y cyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, ochr yn ochr â buddsoddiad gan y sector preifat.

Wrth wneud sylwadau ar y gwobrau, dywedodd Jane Lewis, Rheolwr Partneriaeth Ranbarthol y Bartneriaeth Sgiliau a Dysgu Rhanbarthol:

“Mae hyn yn newyddion gwych. Bydd y gefnogaeth gan DP Energy ac EDF Renewables i’r rhaglen hon yn galluogi cymaint o bobl ifanc o Sir Benfro i ddechrau ar eu taith i lwybr gyrfa yn niwydiannau’r dyfodol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda DP Energy ac EDF Renewables ar brosiectau eraill yn ein rhanbarth!”

Dywedodd Dr Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro:

“Mae Coleg Sir Benfro yn falch iawn o fod yn rhan o bartneriaeth arobryn Destination Renewables a’r model cyflwyno cwricwlwm unigryw a gefnogir gan EDF Renewables a DP Energy. Mae Destination Renewables yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i’n dysgwyr gwrdd ag arbenigwyr yn y diwydiant ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl gyflogwyr sy’n cyflwyno’r rhaglen hon a gydnabyddir yn genedlaethol.”

Yn ogystal â’r partneriaid arweiniol, bydd yr oedolion ifanc yn dysgu oddi wrth amrywiaeth o arweinwyr y sector adnewyddadwy; Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Ynni Morol Cymru, Regen, MEECE, Ystad y Goron, Celtic Sea Power, Prifysgol Abertawe, Energy Kingdom, Mainstay Marine, Bombora, Marine Space, Eversheds Sutherland, Insite Technical Services, Williams Shipping, Marine Power Systems, 3DW a Cadno Communications, Porthladd Penfro, Cyngor Sir Penfro, DST Innovation. Bydd y cydweithio hwn gyda diwydiant yn helpu i bontio’r bwlch sgiliau ac arddangos yr ystod amrywiol o yrfaoedd o fewn y sector, gan gefnogi targedau sero net a sicrhau’r buddion rhanbarthol mwyaf posibl.

Bydd Fforwm Arfordirol Sir Benfro yn cefnogi’r diwydiant ynni adnewyddadwy i gyflawni’r bartneriaeth hon rhwng y sector preifat ac addysg er mwyn rheoli safonau cynnwys diwydiant o ansawdd uchel a sicrhau taith gadarnhaol i ddysgwyr.

Shopping cart close