Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Bywyd newydd i hen ddefnydd

Life Skills Academy learners involved in the project

Roedd trawsnewid llieiniau gwely ail law yn flancedi yn rhan o bartneriaeth rhwng Bluestone a Choleg Sir Benfro i sicrhau bod eitemau dros ben yn cael eu hailddefnyddio.

Yn ddiweddar, rhoddodd Bluestone nifer fawr o lieiniau gwely o ansawdd uchel i Goleg Sir Benfro gyda’r nod o ailgylchu’r defnydd er mwyn ymestyn ei oes a’i ddefnyddioldeb.

Cafodd dysgwyr o Academi Sgiliau Bywyd y Coleg, a staff Coleg Sir Benfro sydd â diddordeb mewn gwnïo, neu ddysgu sut i wnïo, eu recriwtio i ddechrau uwchgylchu’r llieiniau yn flancedi maint sengl a dwbl yn ogystal â matiau a bandanas ar gyfer cŵn a chathod.

I ddechrau, dysgwyd y sgiliau gwnïo sylfaenol o dorri, mesur, pinio a thacio i’r dysgwyr i greu’r cynhyrchion newydd. Pan oedden nhw’n barod ar gyfer gwnïo, roedd staff a nifer o’r dysgwyr wedyn yn gallu defnyddio peiriannau gwnïo’r Coleg i roi gorffeniad hyfryd i’r eitemau.

Dywedodd Marten Lewis, Pennaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol Bluestone: “Mae Bluestone yn falch o fod yn rhan o’r prosiect traws-sector hwn i gefnogi elusennau lleol.

“Rydyn ni’n rhoi llawer o eitemau nad ydyn ni eu hangen bellach neu sydd dros ben i’w hailgylchu neu eu huwchgylchu lle bo modd. Mae’r rhain yn cynnwys bwyd, soffas, setiau teledu, dodrefn a dillad gwely.

“Y tro hwn, roedd gennym 1,000 o lieiniau dros ben. Cafodd saith cant eu rhoi i’r gymuned leol trwy FRAME Sir Benfro a rhoddwyd 300 i Norman Industries a Choleg Sir Benfro i gefnogi’r prosiect hwn.”

Hoffai’r Coleg ddiolch i Bluestone am y cyfle hwn i addysgu dysgwyr y Coleg nid yn unig sgiliau gwnïo, ond hefyd pwysigrwydd ailgylchu deunyddiau yn hytrach na’u hanfon i safleoedd tirlenwi.

Bydd y blancedi gorffenedig yn cael eu rhoi i Gweithredu dros y Digartref Sir Benfro (PATH) i’w dosbarthu a bydd y matiau a’r bandanas yn mynd i elusennau anifeiliaid neu ganolfannau achub.

Shopping cart close