Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Animeiddio stop-symud yn Cyffroi’r Beirniaid

Road Safety Competition Winners

Gosododd Adran Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro y dasg i’n dysgwyr Cyfryngau Creadigol i greu fideo 30 eiliad i godi ymwybyddiaeth o brif achosion gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd – ‘Y 5 Difrifol’.

Gosodwyd her i fyfyrwyr Lefel 3 Y Cyfryngau Creadigol i ddylunio a chynhyrchu ffilm fer sy’n darlunio effaith peidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru yn rhy gyflym, tynnu sylw oddi wrth y gyrru, defnyddio ffôn symudol wrth yrru, a gyrru dan ddylanwad cyffuriau/yfed.

Dywedodd Sally Jones, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Penfro: “Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth yn barhaus o 5 prif achos gwrthdrawiad ar ffyrdd Cymru. Rydym yn ddiolchgar iawn i fyfyrwyr Cyfryngau Creadigol Coleg Sir Benfro, sydd wedi ymgymryd â’r her o greu ffilmiau byr at ddefnydd cyfryngau cymdeithasol, i helpu i godi ymwybyddiaeth o yrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau, goryrru, gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol, gyrru’n ddiofal a ddim yn gwisgo gwregys diogelwch.”

Cyhoeddwyd mai fideo ‘Once Upon a Time’ Lexia Wilson-Pope oedd yr enillydd, a dyfarnwyd gwobr o £100 iddi. Dywedodd Lexia: “Dw i wrth fy modd ac wedi synnu fy mod i wedi cael fy newis fel y cais buddugol, roedd yr animeiddiad yn hwyl iawn i’w wneud.”

Daeth fideo ‘Alert Today – Alive Tomorrow’ gan Penda MicKish a fideo ‘Don’t Be Like Dave’ gan Dylan Gibbs yn ail gyda’r ddau fyfyriwr yn derbyn talebau Amazon.

Mae llawer o fyfyrwyr Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol wedi bod yn llwyddiannus yn ennill y Gystadleuaeth Diogelwch Ffyrdd yn y blynyddoedd blaenorol. Mae’n gyfle gwych i’r myfyrwyr arddangos a datblygu eu sgiliau cynhyrchu fideo rhagorol.

Dywedodd Denys Bassett-Jones, tiwtor y cwrs: “Ro’n i wrth fy modd i weld gwaith y dysgwyr yn cael ei gydnabod fel hyn. Mae’r cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol yn ymfalchïo mewn cynnig cyfle i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn prosiectau byw byr a chystadlaethau pryd bynnag y bo modd ac roedd safon y gwaith a gynhyrchwyd gan yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn hynod o uchel. Maen nhw bob amser yn fy syfrdanu gyda’u syniadau creadigol”.

Gwyliwch fideo buddugol Lexia Wilson-Pope
Gwyliwch fideo Penda MicKish a ddaeth yn ail
Gwyliwch fideo Dylan Gibb a ddaeth yn ail

Darganfyddwch fwy am gwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol y Coleg

Shopping cart close