Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cynaliadwyedd ar y Fwydlen Gyda Deri Reed

Deri-Reed

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth myfyrwyr lletygarwch Coleg Sir Benfro elwa o ddosbarth meistr crwst gyda Deri Reed o ‘The Warren in Wales’. Yn un o hyrwyddwyr cynaliadwyedd mewn bwytai, ac enillydd Gwobr Cogydd y Flwyddyn y llynedd, a drefnwyd gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy, mae Deri yn angerddol am gynaliadwyedd ac yn adeiladu ymwybyddiaeth ymhlith ein gweithwyr proffesiynol lletygarwch yn y dyfodol a fydd, mae’n gobeithio, yn cario ymlaen yr hyn mae wedi cychwyn.

Gwnaethpwyd y dosbarth meistr yn bosibl diolch i bartneriaeth Coleg Sir Benfro â Fforwm y Cogyddion sy’n rhedeg pump academi mewn colegau yn genedlaethol. Mae Academi Fforwm y Cogyddion yn hwyluso dosbarthiadau meistr wythnosol gyda chyflogwyr proffil uchel y diwydiant sydd â’r nod o gyfoethogi’r profiad dysgu trwy arddangos ryseitiau newydd ar yr un pryd ag y mae cogyddion profiadol yn trosglwyddo eu gwybodaeth a’u profiad o’r diwydiant. Mae hyn i gyd yn cyfrif tuag at brofiad gwaith tra bod cyfyngiadau Covid-19 yn parhau yn eu lle.

Ar ei wefan, dywed Deri: “Rydw i’n credu bod gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i amddiffyn ein hamgylchedd,” ac mae hyn yn rhywbeth a ddaeth drwyddo yn ei ddosbarth meistr. Gan weithio gyda myfyrwyr i wneud crwst choux o’r dechrau a chreu eclairs siocled blasus, yn dilyn y dosbarth meistr dywedodd Deri: “Mae gan gogyddion gymaint o ddylanwad i ysbrydoli a newid tueddiadau felly mae’n hyfryd gallu gwneud hynny ymhlith darpar gogyddion yfory. Rydw i wir wedi mwynhau gweithio gyda’r myfyrwyr.”

Mae cynaliadwyedd yn fater pwysig gyda’r gadwyn fwyd gyfan, o gyflenwyr hyd at gogyddion ac yn ôl i ffermwyr ac mae’n hanfodol ein bod yn pwysleisio pwysigrwydd hyn o ran cyrchu cyflenwyr a tharddiad bwyd i’r genhedlaeth nesaf o gogyddion.

Mae Deri yn ymfalchïo mewn curadu dim ond y cyflenwyr mwyaf cynaliadwy gan gynnwys Fferm Organig Blaencamel, Watson & Pratts, fferm Rhosyn, Fferm Cig Eidion Organig Hazelwell, Fferm Laeth Cwm, Calon Wen a Suma Wholefoods.

Dywedodd y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy am Reed: “Agorodd Deri The Warren gyda’r genhadaeth i adael yr amgylchedd ac iechyd cwsmeriaid mewn lle gwell na phe na bai erioed wedi agor. Fe greodd fwyty a adeiladwyd gan y gymuned, gan ddechrau gydag ymgyrch cyllido torfol gwerth £20,000, ac ar gyfer y gymuned, gan wireddu ei freuddwyd o redeg bwyty yn arddangos cynnyrch Cymreig o ansawdd, organig yn bennaf, am brisiau fforddiadwy. Mewn ardal lle mae cig yn brif gynhaliaeth, mae Deri wedi elwa o farchnata opsiynau llysieuol a fegan. Mae breuddwyd Deri wedi’i chyflawni, ac mae’r ffermwyr a’r bwytai lleol wedi elwa’n aruthrol yn sgil hynny.”

Roedd Wendy Weber, Pennaeth y Gyfadran yng Ngholeg Sir Benfro wrth ei bodd â sesiwn Deri a dywedodd: “Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau’r sesiwn gyda Deri yn fawr iawn. Mae crwst mor boblogaidd, felly roedd yn wych gallu gwahodd cogydd proffesiynol a chyflogwr lleol i’r Coleg i roi dosbarth meistr a chynnal pellter cymdeithasol. Mae cyfyngiadau tynnach yn golygu bod yn rhaid i ni nawr symud i sesiwn rithwir ar gyfer yr wythnos nesaf, ond mae Fforwm y Cogyddion wedi cronni llyfrgell wych o adnoddau dysgu i ni barhau â’n sesiynau cyfoethogi’r cwricwlwm trwy gyswllt fideo gyda chardiau rysáit rhagorol gan y cogyddion I gydfynd â hyn i gyd.”

Bydd Fforwm y Cogyddion yn parhau i weithio gyda cholegau drwy’r cyfnod anodd hwn, gan roi mynediad iddynt i rai o’r gweithrediadau mwyaf unigryw yn y DU tra bo cyfyngiadau ar waith. Mae’r cogyddion yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi’r colegau i goginio ryseitiau a chynhyrchu ffilmiau i gydfynd â chardiau ryseitiau a chysylltu â’r myfyrwyr trwy Microsoft Teams ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb fyw.

Shopping cart close