Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Salon y Coleg ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobr Gwallt a Harddwch Cymru

The Salons

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Creative Oceanic y rownd derfynol ar gyfer wythfed Wobrau Gwallt a Harddwch Cymru gyda salonau hyfforddi Coleg Sir Benfro yn cyrraedd rownd derfynol categori ‘Academi Hyfforddiant y Flwyddyn’ am y drydedd flwyddyn.

Bellach yn cael ei gydnabod fel y dathliad blaenllaw o weithwyr proffesiynol gwallt a harddwch yng Nghymru, mae Salonau’r Coleg yn un o ddeg salon hyfforddi i gyrraedd y rhestr fer a Choleg Sir Benfro yw’r unig ddarparwr hyfforddiant addysg bellach i gyrraedd y rhestr fer yn y categori hwn; gan amlygu safon eithriadol yr hyfforddiant a ddarperir yn y Coleg.

Gyda rhai o enwau gorau’r wlad yn y sector gwallt a harddwch ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau, mae staff a myfyrwyr salonau hyfforddi’r Coleg wrth eu bodd o fod wedi cyrraedd y rhestr fer eto. Dywedodd Pennaeth y Gyfadran, Wendy Weber: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer a’n cydnabod yng nghategori Academi Hyfforddiant y Flwyddyn. Mae ein tîm anhygoel yn gweithio’n galed nid yn unig i greu profiad salon gwych, ond hefyd i ddarparu’r addysgu gorau oll i’n dysgwyr. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu gweithwyr proffesiynol gwallt a harddwch dawnus ac ymroddedig y dyfodol ac mae hyn yn dyst i ymroddiad ein tîm a’n dysgwyr.”

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar ddydd Sul 29 Mai yn Stadiwm Dinas Caerdydd ac mae’n addo bod yn noson gofiadwy i ddathlu’r rhai sy’n gweithio’n ddiflino i wneud i ni edrych ar ein gorau drwy ddilyn y tueddiadau diweddaraf a defnyddio technegau creadigol sy’n arwain at edrychiadau di-ffael.

Dywedodd Rheolwr Ymgyrch Gwobrau Gwallt a Harddwch 2022: “Cyrhaeddodd rhai o’r steilwyr, y harddwyr a’r salonau mwyaf eiconig restr fer Gwobrau Gwallt a Harddwch Cymru eleni, gan ei gwneud yn gystadleuaeth ffyrnig iawn.

“Ein nod yw tynnu sylw at bresenoldeb cryf a phroffidioldeb diwydiant gwallt a harddwch y wlad a chydnabod y gweithwyr proffesiynol y mae eu dawn, eu hethos a’u rhagoriaeth wedi eu rhoi ymlaen i dderbyn y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.

“Allwn ni ddim aros i groesawu ein holl westeion a chyflwyno digwyddiad pleserus. Hoffem ddymuno pob lwc i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.”

Gallwch ddilyn The Salons ar gyfryngau cymdeithasol i ddarganfod mwy:

Instagram: thesalons_
Facebook: @pembs.salons

Shopping cart close