Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Salonau ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Trin Gwallt a Harddwch Cymru 2021

Hair Beauty Salons Nov 2021

Mae’r Salonau yng Ngholeg Sir Benfro unwaith eto wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Trin Gwallt a Harddwch Cymru sy’n dathlu’r gweithwyr proffesiynol a’r busnesau gorau sy’n gweithredu yn niwydiant harddwch y wlad.

Wedi cyrraedd rownd derfynol categori Academi Hyfforddiant y Flwyddyn, dyma’r eildro i salonau hyfforddi’r Coleg gyrraedd y rhestr fer.

Wedi’u cynnal gan Creative Oceanic, mae’r gwobrau bellach yn eu seithfed flwyddyn ac yn ceisio cyflwyno clod i’r rhai sy’n gwella ein hyder trwy wneud i ni edrych yn hardd, darparu gwasanaethau cwsmer rhagorol a gweithio o fewn busnesau, clinigau a phractisau, lle mae rhagoriaeth yn safonol.

Bydd Salonau’r Coleg yn darganfod a ydynt wedi ennill mewn seremoni wobrwyo fawreddog sydd i’w chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd ddydd Sul 5 Rhagfyr.

Bydd y digwyddiad yn tynnu ynghyd llawer o unigolion o’r diwydiannau trin gwallt a harddwch, o gwmnïau cosmetig a steilwyr, i fusnesau trin gwallt a harddwch, academïau a chlinigau.

Anrhydeddir y gwobrau gan Creative Oceanic ond cyhoedd Cymru fydd yn pleidleisio.

Mae ystod eang o wobrau yn aros i gael eu cyflwyno i’r gweithwyr proffesiynol a’r sefydliadau haeddiannol, gan gynnwys Salon Harddwch y Flwyddyn, Salon Trin Gwallt y Flwyddyn, Arbenigwr Amrannau y Flwyddyn, Artist Colur y Flwyddyn, a llawer mwy

Dywedodd Llefarydd ar gyfer Gwobrau Trin Gwallt a Harddwch Cymru 2021, “Cyflwynodd pandemig Covid-19 heriau unigryw i’r diwydiant trin gwallt a harddwch gyda llawer o fusnesau’n cael eu gorfodi i gau ac amrywiol gyfyngiadau yn eu lle. Fodd bynnag, mae llawer o fusnesau wedi addasu’n llwyddiannus i’r heriau newydd y mae’r diwydiant wedi’u hwynebu ers i’r pandemig ddechrau.

“I gydnabod hyn, bydd y Gwobrau’n tynnu sylw at y gweithwyr proffesiynol dawnus sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad ac arloesedd mawr i’r diwydiant harddwch, nad ydynt yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu yn aml.

“Gyda chystadleuaeth frwd eleni, hoffem ddymuno pob lwc i’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ac ni allwn aros i groesawu ein gwesteion a chyflwyno digwyddiad pleserus a dymunol iawn arall.”

Shopping cart close