Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Peidiwch Byth Ag Ildio Ar Eich Breuddwydion

Sanna-Duthie

Ysbrydolodd y siaradwr ysbrydoledig Sanna Duthie ddysgwyr Gwasanaethau Milwrol ac Amddiffynnol yn y Coleg yn ddiweddar gyda’i stori am redeg 186 o filltiroedd Llwybr Arfordirol Sir Benfro a hynny mewn 51.5 awr heb gwsg, gan dorri record, er mwyn helpu i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Rhannodd cyn-ddysgwraig y Coleg Sanna Duthie, sy’n rheolwr swyddfa yn ystod y dydd ac yn rhedwraig brwd gyda’r nos, ei phrofiad o redeg Llwybr Arfordirol Sir Benfro mewn amser torri record. Roedd Sanna wedi cymryd rhan mewn ambell farathon dros y blynyddoedd fel Penwythnos Cwrs Hir Dinbych-y-pysgod, 50 Y Gŵyr a Marathon Llundain.

Fodd bynnag, y rhuthr llawn adrenalin i gwblhau Llwybr Arfordir Sir Benfro oedd pan wnaeth Sanna gystadlu mewn ras 100 milltir ar hyd llwybr yr arfordir yn 2017.

“Sylweddolais nad oeddwn yn rhy ddrwg am y pellter hwnnw a dyna pryd ges i’r peth yn fy mhen am wneud yr holl beth.”

Nid rhedeg llwybr arfordirol yw’r her hawsaf ac roedd yn rhaid i Sanna fod yn barod gyda rhaglen hyfforddi health, yn rhedeg dros 300 milltir y mis sy’n gyfwerth â 10 milltir y dydd. Cafodd Sanna hefyd hyfforddiant cryfder a chyflyru mewn campfa leol i sicrhau adferiad llwyddiannus.

“Mae rhedeg ar yr arfordir yn galed ar eich cyhyrau a’ch cymalau ac mae angen i chi gryfhau’r rheini er mwyn peidio â chael eich anafu,” meddai Sanna.

Yn wreiddiol fe ddechreuodd Sanna redeg y llwybr arfordirol cyfan ym mis Awst 2020 ond ar ôl 63 milltir bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r ras oherwydd tywydd peryglus. Nid oedd hyn ond yn gwneud Sanna yn fwy penderfynol a chwblhaodd ei rhediad anhygoel ar 8 Mai 2021.

Esboniodd Sanna uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r rhediad, “Roedd yna adegau pan oeddwn i eisiau rhoi’r gorau iddi, a dechreuais hyd yn oed weld pethau ond defnyddiais i dacteg ac yn hytrach na chanolbwyntio ar y rhediad cyfan, fe’i rhannais yn adrannau – roedd hyn yn gwneud pethau’n llai llethol. Byddai ffrindiau agos a theulu yn ymuno â mi ar wahanol gamau o fy rhediad, ac fe wnaeth hyn fy ysgogi i gyrraedd y llinell derfyn.”

Cafodd y dysgwr Gwasanaethau Amddiffynnol Rhys O’Mara ei ysbrydoli’n llwyr gan stori Sanna, “Rwy’n teimlo, o’r sgwrs, fy mod wedi fy ysbrydoli i fynd allan a gwthio fy hun i ymgymryd â heriau corfforol mwy a gwell. Dangosodd y sgwrs y gallwch chi gyflawni unrhyw beth pan fyddwch chi’n ymroi’n gyfangwbl i’r dasg. Ar ôl y Coleg rydw i’n gobeithio ymuno â’r Awyrlu Brenhinol fel peilot dronau a chael gyrfa lawn yn y lluoedd arfog.”

Sanna oedd y ferch gyntaf i redeg y llwybr arfordirol cyfan a thorrodd y record flaenorol o 64 awr a 32 munud a chodwyd swm rhyfeddol o £5,768.14 at elusen.

Shopping cart close