Dathlwyd y disgleiriaf a’r gorau yn y diwydiant peirianneg adeiladu (ECI) mewn seremoni wobrwyo fawreddog neithiwr yn y Cutty Sark yn Llundain. Un o’r sêr disgleiriaf yn eu plith oedd Jordan Palmer o Sir Benfro a enillodd Dysgwr y Flwyddyn.
Dyma’r unfed digwyddiad ar ddeg o’r Gwobrau Hyfforddi a Datblygu ECI, a drefnwyd gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Peirianneg Adeiladu (ECITB). Daeth arweinwyr diwydiant, dylanwadwyr a llunwyr polisi yn ogystal â sêr y dyfodol ynghyd mewn seremoni a gynhaliwyd gan beiriannydd, darlledwr, athro ac eiriolwr STEM, Kate Bellingham.
Wedi’i hysbrydoli gan hanes morwrol cyfoethog y Cutty Sark a gyda’r seremoni’n cael ei chynnal o dan ei gorff llong byd-enwog, thema’r digwyddiad eleni oedd cychwyn ar deithiau.
Wrth siarad yn ei Wobrau ECI cyntaf ers ymuno â’r ECITB, pwysleisiodd y Prif Weithredwr Andrew Hockey mai asedau mwyaf gwerthfawr y diwydiant yw ei bobl, y rhai sydd ar ddechrau eu teithiau fel y dysgwyr, prentisiaid a graddedigion a anrhydeddwyd neithiwr a’r rhai oedd yn bresennol “y mae eu teithiau wedi paratoi’r ffordd i’r rhai sy’n dilyn”.
Dywedodd:
Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol sy’n enghreifftiau gwych o’r llwyddiannau o bob rhan o ddiwydiant dros y flwyddyn ddiwethaf. Maen nhw’n dangos y talent, yr arloesedd, y gwytnwch a’r ymdrech sydd mor uchel eu parch i’n diwydiant, gan osod safonau yr ydym i gyd yn anelu atyn nhw.
Mae ansawdd yr enwebiadau eleni yn adlewyrchu cryfder talent yn y diwydiant ac mae ehangder y mynychwyr neithiwr yn dangos mai’r gwobrau hyn yw un o’r digwyddiadau mwyaf yn y calendr adeiladu peirianneg.
Roedd yn wych bod yn yr un ystafell i ddathlu popeth sy’n wych am hyfforddiant a datblygiad yn ein diwydiant gyda chymaint o bartneriaid a ffrindiau yn cynrychioli sefydliadau o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol.
Hoffwn estyn diolch enfawr i’n holl feirniaid, a gafodd y dasg aruthrol o ddewis enillydd ym mhob categori.”
Llwyddodd Jordan Palmer i frwydro yn erbyn cystadleuaeth frwd i ennill Dysgwr y Flwyddyn. Mae wedi profi i fod yn dalent eithriadol mewn weldio a ffabrigo, gan arddangos rhinweddau gwirioneddol ysbrydoledig. Cafodd lwyddiant yng nghystadleuaeth weldio rhanbarthol Sir Benfro ac enillodd fedal arian yn rowndiau terfynol Cystadleuaeth Weldio Ysbrydoli Sgiliau Cymru.
Arweiniodd ymroddiad Jordan i dwf personol at brentisiaeth yn Rhyal Engineering. Mae ei angerdd am ei grefft a’i barodrwydd i rannu gwybodaeth yn ei wneud yn ymgeisydd rhagorol, fel y dangoswyd wrth iddo gael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol UK Skills 2022/23.
Derbyniodd Arwyn Williams, Pennaeth y Gyfadran Peirianneg a Chyfrifiadureg yng Ngholeg Sir Benfro, y wobr ar ran Jordan am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y digwyddiad.
Dywedodd:
“Mae Jordan mor ymroddedig i’w astudiaethau. Mae mor awyddus a thalentog mewn peirianneg. Mae’n weldiwr ac yn ffabrigwr ac, i ddweud y gwir, rydyn ni’n cael trafferth i’w gael allan o’r gweithdy weldio oherwydd ei fod mor awyddus i fwrw ymlaen ac ennill ei sgiliau.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r ECITB ac mae’r rhaglen ysgoloriaeth yn un enghraifft o ble rydyn ni wedi dod â llawer o bobl ifanc i mewn i gyflenwi sgiliau a hyfforddiant er mwyn dod ag unigolion dawnus i mewn i’r sector.”
Gwneud cyfraniadau sylweddol i ddiwydiant
Roedd panel beirniaid y gwobrau’n cynnwys John Simpson o ECIA, Tracey Shelley o BCECA a Zainab Adigun o AFBE, a luniodd restr fer ym mhob categori i ddewis yr enillwyr yn seiliedig ar y cyfraniadau sylweddol y maen nhw wedi’u gwneud i ECI a’u sefydliadau eu hunain. Ymhlith yr enillwyr ar y noson roedd Llywydd Gweithredol Bilfinger UK Sandy Bonner.
Ychwanegodd Lynda Armstrong, Cadeirydd Bwrdd ECITB:
“Hoffwn longyfarch pawb a gafodd eu hanrhydeddu neithiwr a diolch i’n noddwyr hael a wnaeth y digwyddiad yn bosibl.
Mae gan y Cutty Sark hanes hynod, sydd yn fy marn i yn adlewyrchu’r uchelgais, y dycnwch a’r ymdrech feiddgar sy’n aml yn diffinio adeiladu peirianyddol, ac a oedd yn amlwg yn straeon llwyddiant pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni.
Mae gan y sefydliadau a’r unigolion yn yr ystafell y gallu i ddylanwadu ar newid cadarnhaol trwy arloesi, gwybodaeth, sgiliau a chydweithio. Yn y bôn, mae’r byd angen i chi wneud yr hyn y mae peirianwyr bob amser wedi’i wneud orau, sef adeiladu rhywbeth gwell na’r hyn a ddaeth o’r blaen.”
Gwobrau Hyfforddi a Datblygu ECI 2023: Enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol
Prentis y Flwyddyn – noddir gan C&P Engineering
Enillydd: Luke Turner (Cavendish Nuclear Ltd)
Yn y rownd derfynol: Lydia Uttley (Wright Engineering), Annie Nash (EDF)
Graddedig y Flwyddyn – noddir gan BCECA
Enillydd: Hannah Marchant (Cavendish Nuclear Ltd)
Yn y rownd derfynol: Alexander Board (Jacobs), Ben Pond (Aquaterra Energy Ltd)
Menter ED&I y Flwyddyn – noddir gan yr NDA
Enillydd: WSP
Yn y rownd derfynol: Fluor Limited, The Human Library – ACOSTE, Everyone Belongs – Rhaglen Diwylliant, Cynhwysiant ac Amrywiaeth Wessex Water
Dysgwr y Flwyddyn – noddir gan Cavendish Nuclear Ltd
Enillydd: Jordan Palmer (Coleg Sir Benfro)
Yn y rownd derfynol: Owen Klinton (Y Coleg Peirianneg), Patrick Grannon (Coleg Gogledd Lindsey), Thomas Tooze (Coelg Bridgewater & Taunton)
Cyflogwr Mawr y Flwyddyn – noddir gan CATCH
Enillydd: Dounreay, Adran o Magnox
Yn y rownd derfynol: NNB Generation Company (HPC), Briggs of Burton
Cyflogwr Bach/Canolig y Flwyddyn – noddir gan AFBE
Enillydd: Grŵp STATS
Yn y rownd derfynol: Hornbill Engineering Limited, Wright Engineering
Darparwr Hyfforddiant Cymeradwy y Flwyddyn – noddir gan TWI
Enillydd: Coleg Forth Valley
Yn y rownd derfynol: GSS Training Limited, CATCH
Gwobr Diogelwch Arwain y Diwydiant – noddir gan Sellafield
Enillydd: Petrofac
Yn y rownd derfynol: Andrew Clarke (Dounreay, adran o Magnox), Connected Competence (Grŵp Cyflenwi Cyflogwyr), C&P Engineering Services Ltd
Darparwr Hyfforddiant Rhyngwladol y Flwyddyn – noddir gan Petrotekno
Enillydd: 3t EnerMech
Yn y rownd derfynol ac enillwyr rhanbarthol: Vibrant Global, BJ Services (M) Sdn Bhd
Cyfraniad Eithriadol i Ddiwydiant
Enillydd: Sandy Bonner (Bilfinger UK)