Cysylltodd Karen Wood, Rheolwr Cysylltiadau Allanol a Pherfformiad Cymdeithasol yn Dragon LNG a Dragon Energy, â Phennaeth Coleg Sir Benfro, Dr Barry Walters, gyda chyfle i roi profiad gwaith cyffrous i ddysgwyr dylunio graffeg: i greu graffeg fewnol gref ac addysgiadol i ragweld taith Dragon LNG i Net Sero erbyn 2029.
Mae Dragon LNG, sydd wedi’i leoli yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, yn derfynfa ail-nwyeiddio sy’n trin â hyd at 96 o gargoau o LNG yn flynyddol, ac mae’n gallu darparu 10% o anghenion nwy naturiol y DU. Mae Dragon wedi darparu gwasanaethau diogel, dibynadwy a hyblyg i’r farchnad ers 2009 ac mae’n cyfrannu’n weithredol at ymgysylltu â’r gymuned trwy eu Pwyllgor Cyswllt Cymunedol, y Parth Gwybodaeth Cyhoeddus, a phrosiectau Datblygu a Hyfforddiant Ieuenctid arobryn gyda phartneriaid fel Darwin, Coleg Sir Benfro, Clwstwr Ysgolion Aberdaugleddau a Chyngor Sir Penfro, ymhlith rhaglenni cymorth cymunedol eraill.
Enwebodd tiwtor y cwrs, Louise, Thomas ac Imogen sef dau ddysgwr Diploma Estynedig Dylunio Graffig a Darlunio dawnus. Mynychodd y dysgwyr brwdfrydig eu cyfarfod cyntaf yn Dragon LNG ym mis Tachwedd 2023 ac maen nhw’n parhau i gymryd rhan mewn nifer o gyfarfodydd cynnydd yng Ngholeg Sir Benfro ac ar safle Dragon LNG Waterston. Mae’r cyfarfodydd hyn wedi bod yn allweddol wrth lunio’r prosiect, gan roi i’r dysgwyr brofiad o’r byd go iawn a mewnwelediad i’r diwydiant.
Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, cafodd Imogen a Thomas y dasg o ddehongli a chynrychioli ‘5 North Stars’ Dragon yn weledol:
- Terfynell LNG diogel, dibynadwy a hyblyg a hwb ynni’r dyfodol.
- Timau galluog, medrus i weithio ar ased digidol.
- Contract cwsmer gwerth uchel cystadleuol gyda model busnes newydd.
- Datgarboneiddio yn Nhrawsnewidfa Ynni Aberdaugleddau.
- Datgarboneiddio a thŵf Dragon Energy Ltd.
Dywedodd Simon Ames, Rheolwr Gyfarwyddwr Dragon LNG a Dragon Energy: “Mae datblygiad y graffeg ar gyfer ‘5 North Star’ yn rhan hanfodol o wireddu gweledigaeth Dragon.
“Mae’r delweddau hyn nid yn unig yn cyfleu’r camau allweddol sydd eu hangen i gyflawni ein huchelgais o sero net a nodau ynni adnewyddadwy tra’n sicrhau diogelwch ynni, ond maen nhw hefyd yn chwarae rhan ganolog wrth ysbrydoli ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan sicrhau bod pawb yn barod ac wedi’u hysgogi tuag at ein taith uchelgeisiol. Bydd gwaith rhagorol Tom ac Imogen wrth greu’r cynrychioliadau hyn yn gymorth i gyfathrebu am fwriad strategol ein terfynell yn effeithiol ac yn rymus.”
Llwyddodd Thomas ac Imogen i reoli eu hamser yn effeithiol trwy gydol y comisiwn tra’n cwblhau prosiectau coleg hefyd , gan gynnwys uned raddedig derfynol y cwrs a rhoi ceisiadau am leoedd yn y prifysgol y flwyddyn nesaf.
Myfyriodd y dysgwyr creadigol ar eu profiad wrth i Imogen ddweud: “Ces i’r anrhydedd anhygoel pan ofynnwyd i mi weithio ar brosiect mor fawr, ac rwy’n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i weithio mewn amgylchedd proffesiynol, gan nad oes llawer o bobl yn cael cyfle fel hyn. Ar y cyfan, rydw i wedi mwynhau gwneud y prosiect yma yn fawr, ac mae’r profiad wedi fy helpu i roi fy ngyrfa yn y dyfodol mewn persbectif, a deall sut beth fydd gweithio gyda chleientiaid eto! Diolch eto am y cyfle arbennig yma.”
Ychwanegodd Thomas: “Er bod y ddau ohonon ni wedi gweithio arno bron â bod trwy gydol ein blwyddyn coleg, rwyf mor hapus fy mod wedi cael gwneud y prosiect yma. Mae cael client pwysig ar raddfa mor eang yn rhywbeth newydd iawn, ond roeddwn yn hapus i gymryd yr her, a dysgais lawer am y diwydiant a sut mae darlunwyr yn gweithio’n broffesiynol ar yr un pryd. Hoffwn ddiolch yn fawr iddyn nhw!”
Dywedodd Louise, Tiwtor Cwrs Coleg Sir Benfro ar gyfer y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Dylunio Graffeg a Darlunio: “Roedd hi mor ddiddorol i ni gyd ddysgu mwy am Dragon LNG a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Ymatebodd Tom ac Imogen yn frwdfrydig i’w her gan ennill profiad gwerthfawr wrth gysylltu â chleient pwysig a gweithio ar wahanol fath o ddarluniad. Rwy’n browd iawn ohonyn nhw ac yn falch iawn drostyn nhw.”
Cynhaliwyd y cyfarfod cynnydd terfynol ar yr 20fed Mai ar safle Dragon LNG Waterston, lle bu Thomas ac Imogen yn arwain cyflwyniad gan fyfyrio ar y profiad a dadorchuddio’r graffeg gorffenedig gyda sawl aelod o’r tîm rheoli. Cafodd Imogen a Thomas eu synnu pan roddodd Dragon LNG iPad a stylus iddyn nhw yn gyfnewid i ddangos gwerthfawrogiad y tîm am eu hymdrechion dros y chwe mis diwethaf.
Dywedodd Cath Rheolwr Maes Cwricwlwm Coleg Sir Benfro ar gyfer Y Celfyddydau Creadigol a Diwydiannau:
“Rydyn ni i gyd mor falch o’r proffesiynoldeb a’r egni creadigol, y ddawn, a’r sgiliau llunio traddodiadol a’r sgiliau dylunio digidol a ddangoswyd gan Imogen a Tom trwy gydol y prosiect hwn, o’r dechrau i’r canlyniadau terfynol, a pha mor dda y gwnaethon nhw weithio ar y cyd wrth gyfathrebu â’r cleient pwysig hwn.”
I ddarganfod mwy am y cyrsiau celf sydd ar gael i’w hastudio yng Ngholeg Sir Benfro ewch i: www.colegsirbenfro.ac.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Dragon LNG a Dragon Energy ewch i: www.dragonlng.co.uk