Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni Adnewyddadwy gyda chefnogaeth Shell UK

People sitting infant of screens in control room.

Mae Coleg Sir Benfro yn falch iawn o gyhoeddi ei fod yn gweithio gyda Shell UK i ddatblygu Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni Adnewyddadwy ar safle’r Coleg yn Hwlffordd.

Mae’r Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni Adnewyddadwy ar hyn o bryd yn un o dri a gefnogir gan Shell UK a bydd yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth i bobl ddod o hyd i waith mewn prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel trwy brofiad dysgu trochi a rhyngweithiol.

Nod y cyfleuster yw hyfforddi 600 o unigolion erbyn Gorffennaf 2026, gan ddarparu cronfa o dalent i Sir Benfro a Gorllewin Cymru a fydd â gwybodaeth a phrofiad o systemau rheoli sydd eu hangen ar gyfer prosiectau, fel ffermydd gwynt arnofiol ar y môr a gweithfeydd pŵer hydrogen yr Hafan.

Gydag ynni adnewyddadwy a thechnoleg carbon isel yn uchel ar yr agenda, yn lleol ac yn genedlaethol, mae’r cyfleuster yn dod ar adeg bwysig i’r sector ynni.

Bydd yr Ystafell Reoli ar y safle o’r radd flaenaf yn galluogi hyfforddiant mewn systemau rheoli ar gyfer ystod eang o sectorau gan gynnwys: Gwynt sy’n arnofio ar y Môr; Safle Hydrogen; Solar PV; Gorsafoedd pŵer llanw/morol a nwy.

Cefnogir y rhaglen gan Shell UK a Chronfa Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac mae’n ymateb yn uniongyrchol i anghenion cwmnïau lleol yn ogystal â’r rhai o ymhellach i ffwrdd sy’n edrych i fuddsoddi yn y rhanbarth. Bydd yr Hwb, sydd i fod i agor erbyn Mehefin 2024, hefyd yn cefnogi’r gymuned leol ac ysgolion drwy roi’r cyfle iddynt ddeall mwy am sut y bydd trawsnewid ynni yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio yn y dyfodol.

Dywedodd Arwyn Williams, Pennaeth Cyfadran yng Ngholeg Sir Benfro “Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Shell UK ar ddatblygu cyfleuster hyfforddi’r Ystafell Reoli. Bydd llawer o’n dysgwyr a’r rhai sydd am uwchsgilio yn elwa o ddeall mwy am y systemau rheoli trwy brofiad ymarferol. Bydd meddu ar y gallu i hyfforddi pobl ar gyfer sectorau sy’n dod i’r amlwg fel gwynt arnofiol ar y môr a hydrogen yn rhoi mantais wirioneddol iddyn nhw pan fydd y cyfleoedd ar gael”.

Dywedodd Anthony Harte, Rheolwr Effaith Gymdeithasol Shell UK: “Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio’n agos gyda Choleg Sir Benfro ar ddatblygu’r Hwb Sgiliau Trawsnewid i Ynni Adnewyddadwy. Bydd hwn yn un mewn cyfres o hybiau ledled Prydain y mae Shell UK yn buddsoddi ynddyn nhw, gyda’r bwriad o helpu i uwchsgilio a hyfforddi gweithlu’r dyfodol. Nod Rhaglen Pontio Sgiliau Shell UK yw helpu 15,000 o bobl i mewn i swyddi, gyda ffocws ar y trawsnewid ynni erbyn 2035. Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl elwa ar system ynni’r dyfodol, fel bod y cyfnod trawsnewid yn gyfle i bawb”.

Shopping cart close