Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Y Fyddin yn agor hwb gyrfaoedd newydd

Learner discussing Army Careers with Military Officer

Yn ddiweddar croesawodd Coleg Sir Benfro bersonél y Fyddin i agor Hwb Gyrfaoedd y Fyddin yn swyddogol ar gampws y Coleg.

Bydd yr hwb newydd hwn, a fydd yn cael ei staffio’n fisol, yn galluogi pobl leol i gael mynediad at bersonél Gyrfaoedd y Fyddin heb orfod teithio i Abertawe ar gyfer cyfweliadau a sesiynau briffio. Agorwyd yr hwb gan y cyn Uwchfrigadydd, Will Bramble, sydd bellach yn Brif Weithredwr Cyngor Sir Penfro.

Mae’r Hwb wedi’i gysylltu’n agos â chwrs y Coleg, sef Paratoi ar gyfer y Fyddin, a lansiwyd yn 2001 a’i ailfrandio yn 2010 i Baratoi Milwrol. Bellach ni yw’r unig Goleg yng Nghymru i gynnal cwrs Paratoi ar gyfer y Fyddin, gyda’r lleill i gyd yn cael eu gweithredu gan MPCT, cwmni hyfforddi allanol. Ers 2001 rydym wedi cefnogi dros 400 o ddysgwyr i gyflawni eu nod gyrfa o ymuno â’r Lluoedd Arfog.

Mae cyn-ddysgwyr wedi cael cyflogaeth ar draws bron pob llwybr gyrfa filwrol gan gynnwys pob Catrawd Gymreig, Catrawd Barasiwt, Corfflu Hyfforddiant Corfforol Brenhinol y Fyddin, yr Awyrlu Brenhinol, y Llynges Frenhinol, Cangen Awyr y Fflyd, y Môr-filwyr Brenhinol a hyd yn oed y Gwasanaeth Awyr Arbennig. Yn ystod blynyddoedd cynharach y cwrs, bu ein cyn ddysgwyr yn gwasanaethu yn Irac ac Afghanistan. Yn fwy diweddar, mae cyn-ddysgwyr wedi bod yn ymwneud yn llythrennol â lleoliadau ledled y byd ar ymarferion hyfforddi a chymorth dyngarol, gan gynnwys y Falklands, Mali, Kenya, Canada, Nepal, Estonia a’r Almaen, i enwi dim ond rhai.

Dywedodd Andrew Desborough, Darlithydd Gwasanaethau Amddiffynnol yng Ngholeg Sir Benfro: “Mae creu Hwb Gyrfaoedd y Fyddin yng Ngholeg Sir Benfro yn crynhoi’r berthynas waith wych sydd wedi’i sefydlu dros y blynyddoedd rhwng y Fyddin a’r Coleg. Mae hefyd yn arwyddocaol iawn i bobl ifanc yn Sir Benfro a siroedd cyfagos, gan ei fod yn golygu y gall ymgeiswyr y Fyddin gael cyfweliadau a sesiynau briffio yng Ngholeg Sir Benfro, gan arbed amser a chost iddyn nhw gyda theithio.”

Ychwanegodd John Arundel, Rheolwr Gweithrediadau Recriwtio: “Rydym wrth ein bodd yn agor ein hwb recriwtio newydd yng Ngholeg Sir Benfro, gan roi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i weld a yw gyrfa yn y Fyddin yn iawn iddyn nhw heb orfod gadael y coleg. Mae gyrfa yn y Fyddin yn eich paratoi ar gyfer bywyd, gan roi sgiliau a phrofiadau i chi y gallwch eu defnyddio yn eich gyrfa yn y Fyddin a thu hwnt. Yn ogystal â chael ein talu i deithio, chwarae chwaraeon a dilyn hyfforddiant anturus, rydym yn cynnig dros 200 o rolau mewn ystod eang o feysydd yn ogystal â bod yn ddarparwr Prentisiaethau mwyaf yn y DU.

“Mae yna rywbeth at ddant pawb yn y Fyddin ac mae bod ar y campws bob mis yn rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr a’r boblogaeth leol ymweld â ni a chael sgwrs am sut y gallai gyrfa yn y Fyddin edrych iddyn nhw.”

Yn ystod yr agoriad roedd gan y Gwarchodlu Cymreig, 157 RLC Wrth Gefn, Peiriannydd Brenhinol (Wrth Gefn) a’r Tîm Ymgysylltu Troedfilwyr arddangosiadau yn yr Atrium a’r tu allan ac yn annog dysgwyr i gymryd rhan mewn nifer o heriau fel adeiladu pontydd, codi pwysau a thynnu olwyn. Cymerodd llawer o fyfyrwyr ran yn yr heriau hyn gan fwynhau’r profiad yn fawr.

Dywedodd cyn ddysgwr y cwrs Paratoi Milwrol, Preifat Mitchell, “Roedd y cwrs wnes i ei astudio yn y Coleg wedi gwneud i mi feddwl am y cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd ar gael yn y Fyddin. Dw i bellach yn gweithio i’r Corfflu Logisteg Brenhinol, a hwn oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed. Ar y cwrs rydych chi’n gweithio mor agos gyda gwasanaethau milwrol mae’n wych oherwydd mae gyda chi’r cyfle i siarad yn uniongyrchol â nhw a chymryd rhan mewn ymarferion hyfforddi hefyd. Mae’r Hwb hwn yn ffordd wych i ddysgwyr ddysgu am yrfaoedd milwrol.”

I ddarganfod mwy am ein cwrs Paratoi ar gyfer y Fyddin ewch i: Military Preparation – Pembrokeshire College

Shopping cart close