Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Y seremoni raddio yn nodi diwedd y flwyddyn academaidd

Graduation 2022

Ar un o’r dyddiau pwysicaf yng nghalendr academaidd y Coleg, roedd yr haul yn tywynnu wrth i deuluoedd a ffrindiau ymgasglu yn lleoliad godidog Eglwys Gadeiriol Tyddewi i weld myfyrwyr yn derbyn eu graddau, HNDs, HNCs a dyfarniadau ôl-raddedig gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â chymwysterau proffesiynol trwy’r Coleg.

Gyda myfyrwyr yn graddio o 2020, 2021 a 2022 roedd y diwrnod yn arbennig iawn i’r rhai oedd wedi gorfod aros cyhyd i gael cydnabyddiaeth ffurfiol i’w cyflawniadau oherwydd pandemig Covid-19.

Rhwng y seremoni cafwyd cerddoriaeth organ gan Simon Pearce a pherfformiadau cerddorol gan y fyfyrwraig Lefel A Nancy Mason-Hopkins ac aelod o staff y Coleg Stephanie Hills a thraddododd y Prif Arolygydd Louise Harries araith ysbrydoledig a gonest i’r graddedigion a’u teuluoedd.

Cyflwynwyd gwobrau cyflawniad arbennig hefyd ar ddiwedd y seremoni. Hoffai’r Coleg estyn diolch arbennig i’w noddwyr gwobrau: Carreg Construction, Dragon LNG, Ffederasiwn Busnesau Bach a Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru.

Dymunwn bob llwyddiant i bawb a raddiodd yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Oes gennych ddiddordeb mewn ennill cymhwyster lefel uwch?
Os ydych yn ystyried gwneud cais am gymhwyster lefel uwch, i’ch helpu i symud ymlaen yn eich swydd bresennol, neu i ymuno â rhywbeth newydd, mae’r Coleg yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau lefel uwch i chi ddewis ohonynt gan gynnwys: AAT, Cyfrifiadura, Rheolaeth Adeiladu, Peirianneg (llwybrau lluosog), Iechyd a Gofal Plant, ILM ac Addysgu.

I gael gwybod mwy am symud ymlaen â’ch cymwysterau ffoniwch: 0800 9 776 788 neu ewch i: colegsirbenfro.ac.uk

Shopping cart close