Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Rhoi’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer cyflogaeth leol yn y dyfodol

Skills & Talent programme launch

Mae prosiect peilot unigryw wedi’i gymeradwyo yn Sir Benfro a fydd yn dod â myfyrwyr a chwmnïau sy’n arbenigo yn y sector ynni adnewyddadwy at ei gilydd, gan greu fframwaith dan arweiniad diwydiant ar gyfer Ynni Glas-Wyrdd a fydd yn paratoi talent ifanc ar gyfer cyfleoedd gwaith lleol sydd ar ddod.

Dyma’r prosiect peilot cyntaf i’w gymeradwyo gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (RLSP). Mae hyn yn rhan o Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £30 miliwn lle bydd Coleg Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro a busnesau lleol yn cydweithio i gyflwyno Pasbort i Gyflogaeth Sir Benfro.

Gan ddechrau ym mis Medi 2022, bydd myfyrwyr rhwng 5-19 oed yn elwa o’r prosiect hwn a bydd yn cael ei addysgu gan Goleg Sir Benfro, Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau ac Ysgol Harri Tudur drwy bum llinyn allweddol. Bydd myfyrwyr yn dysgu am ynni adnewyddadwy gan gynnwys ynni tonnau, llanw a solar, a gwynt ar y môr ac ar y tir gyda chymorth gan gwmnïau sy’n arbenigo yn y maes hwn gan gynnwys EDF Renewables UK DP Energy, Blue Gem Wind, Bombora Wave ac Ore Catapult.

Mae’r prosiect cyffrous hwn wedi’i ddatblygu drwy gydweithio’n agos â phrosiect Morol Doc Penfro Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’n adnabod bylchau sgiliau yn y fframweithiau addysg presennol ar gyfer addysgu ynni adnewyddadwy, lle disgwylir y bydd galw mawr am weithwyr yn y dyfodol drwy’r Fargen Ddinesig a phrosiectau eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe, “Mae’n wych gweld cynllun peilot Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig cyntaf Bae Abertawe yn cael ei gymeradwyo a dau o’n prosiectau’n cydweithio i greu addysgu y mae mawr ei angen ar ynni adnewyddadwy. Rydym yn gobeithio bydd y cynllun peilot hwn yn ardal glwstwr Aberdaugleddau yn llwyddiannus gan ein bod yn rhagweld y bydd yn cael ei gyflwyno i ardaloedd eraill ar draws Sir Benfro, De Orllewin Cymru ac yn genedlaethol yn y blynyddoedd i ddod.

“Rydym yn sicr y bydd y fenter arloesol hon yn sicrhau y bydd y myfyrwyr yn barod am swydd yn y sector ynni adnewyddadwy, a thrwy adeiladu ar ein harbenigedd yn y diwydiant lleol rydym yn gobeithio creu canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro. Bydd yn trawsnewid ffyniant cyflogaeth ar gyfer y sir ac yn ehangach ar gyfer y rhanbarth a bydd yn gweithio ochr yn ochr â mentrau eraill a fydd yn datblygu sgiliau ein gweithlu presennol hefyd.”

“Mae’r Rhaglen Sgiliau a Thalent yn cydgysylltu ag 8 prosiect arall y Fargen Ddinesig. Bydd yn ein helpu i dyfu ein rhanbarth, wrth gadw ein myfyrwyr dawnus trwy ddarparu cyfleoedd iddynt aros yn lleol pan fyddant yn barod am gyflogaeth. Rydym yn y broses o adolygu cynigion prosiectau peilot eraill ac yn gobeithio gwneud cyhoeddiadau yn fuan am fentrau mwy cyffrous a fydd yn helpu i lunio ein ddyfodol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd yng Nghyngor Sir Penfro, “Fel awdurdod lleol rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid i helpu i sicrhau ein bod yn darparu’r sgiliau i’n pobl ifanc a fydd yn galluogi’r rhanbarth hon i gael gweithlu peirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg medrus ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Dywedodd Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro, “Rydym wrth ein bodd mai’r dull partneriaeth rhwng Cyngor Sir Penfro, cwmnïau ynni lleol a ni yw’r prosiect cyntaf i gael ei gymeradwyo drwy Llinyn Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Rydym yn edrych ymlaen at weld nifer o fentrau arloesol yn cael eu rhoi ar waith ym mis Medi a fydd yn codi ymwybyddiaeth o ynni adnewyddadwy ac yn helpu i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc y sir ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.”

Shopping cart close