Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Wedi’u geni i fod yn Wyllt!

Animal Management Course

Mae myfyrwyr Rheoli Anifeiliaid Lefel 3 wedi bod yn paratoi ar gyfer eu blwyddyn sydd i ddod, lle byddan nhw wedi’u lleoli ym Mharc Antur a Sŵ poblogaidd Folly Farm ac yn gweithio ochr yn ochr â Cheidwaid Sŵ y parc.

Mae’r parc hyfryd hwn sydd yng nghanol Sir Benfro yn ddiwrnod allan poblogaidd gyda theuluoedd yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r parc wedi bod yn gweithredu ers dros tri deg mlynedd a dechreuodd yn wreiddiol fel fferm laeth ac yna datblygodd ei statws sŵ yn 2002. Ar hyn o bryd mae’r parc yn gartref i dros 200 o wahanol rywogaethau o anifeiliaid ac mae’n aelod o Gymdeithas Ewropeaidd Sŵau ac Acwaria a Chymdeithas Sŵau ac Acwariwm Prydain ac Iwerddon.

Fe wnaeth Curadur Sw’r parc, Tim Morphew, fynd â’r myfyrwyr ar daith breifat o amgylch y tiroedd a rhoddodd gipolwg unigryw y tu ôl i’r llenni o weithrediadau dyddiol y parc a llefydd arddangos yr anifeiliaid.

Trafododd Tim bwysigrwydd cadwraeth anifeiliaid gyda’r dysgwyr a sut y bydd hyn yn chwarae rhan hanfodol ym mhrofiad gwaith y myfyrwyr ym mis Medi. Trafododd hefyd sut y byddant yn gweithio’n agos gyda’r cathod gwyllt sydd i gyrraedd yn yr wythnosau nesaf.

“Mae’r berthynas rhwng y coleg a Folly Farm yn gweithio mor dda gan ei fod yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddysgu sut i ofalu am ystod enfawr o anifeiliaid egsotig nad yw myfyrwyr mewn mannau eraill efallai yn cael y cyfle i’w wneud. Mae’n amlwg gweld o’u hwynebau eu bod wrth eu bodd yn dod mor agos at jiráff, rhino a holl anifeiliaid eraill y sw, a gobeithio ein bod yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o geidwaid sw a chadwraethwyr!” meddai Tim.

Parhaodd y daith y tu ôl i’r llenni gyda chwrdd â’r pengwiniaid a bwydo’r jiráff trwy blatfform bwydo preifat a gwirio iechyd y ceidwaid eu hunain.

Rhoddwyd cyfle i’r myfyrwyr gwrdd â’r camel bach Cletus sydd, fel llawer o rywogaethau eraill yn y parc, â stori i’w hadrodd. Cydiodd Cletus yng nghalonnau’r myfyrwyr gyda’i bersonoliaeth gyfeillgar a chwilfrydig a chafwyd cyfle am lawer o gwtshis.

Dywedodd Lizzy, dysgwr Gofal Anifeiliaid, “Rwy’n mwynhau’r cwrs yn fawr, oherwydd mae’r darlithwyr yn hynod gefnogol a brwdfrydig. Y profiad ymarferol yw’r rhan fwyaf pleserus i mi ac mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer cael profiad o weithio gydag ystod eang o anifeiliaid. Ym mis Medi byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r ceidwaid ac yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae sw yn gweithio. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y rhan yma o’r cwrs a bydd cael profiad go iawn yn y diwydiant yn helpu gyda fy ymdrechion yn y dyfodol.

“Byddwn yn argymell y Cwrs Gofal Anifeiliaid Lefel 3 yn y Coleg yn fawr, mae’n helpu i’ch paratoi ar gyfer bywyd o weithio gydag anifeiliaid, yn ymarferol a gyda’r theori. Rydyn ni’n dysgu gyda darlithwyr sy’n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd a oedd yn cynnwys gweithio gydag anifeiliaid a nawr rydyn ni’n cael gweithio gyda cheidwaid sw go iawn hefyd.

“Ar ôl y cwrs hwn hoffwn fynd ymlaen i wneud gradd mewn Lles Anifeiliaid a Moeseg. Gobeithio y bydd hyn yn fy ngalluogi i ddod o hyd i yrfa fel Ymddygiadwr Anifeiliaid neu Geidwad Sŵ.”

Mae cwrs Rheoli Anifeiliaid Lefel 3 y Coleg yn caniatáu i’r myfyrwyr fod wedi’u lleoli yn Folly Farm lle byddan nhw’n astudio ac yn gweithio’n ymarferol yn y parc gydag amrywiaeth o rywogaethau dan oruchwyliaeth y Ceidwaid Sŵ. Mae eu profiad gwaith yn cynnwys glanhau llefydd arddangos, cymryd rhan mewn cadwraeth anifeiliaid, bwydo, trwsio a gwiriadau iechyd. Ar hyn o bryd y myfyrwyr hyn yw’r unig rai ar brofiad gwaith yn Folly Farm sy’n agor llawer o ddrysau i fyd gofal anifeiliaid domestig ac egsotig.

Dywedodd Kim, Darlithydd Gofal Anifeiliaid, “Mae ein dysgwyr Lefel 3 Rheoli Anifeiliaid yn cael cyfle unigryw nid yn unig i gael ystafell ddosbarth allan yn Folly Farm, sy’n edrych dros y lloc Rhino, ond hefyd y profiad anhygoel o weithio gyda’r Ceidwaid Sŵ. Mae hwn yn gyfle gwych i adeiladu ar sgiliau ac angerdd, sydd, ochr yn ochr â Lefel 3, yn gallu agor llawer o ddrysau i weithio yn y diwydiant. Mae’r cwrs Lefel 3 yn darparu’r cam perffaith i’r brifysgol neu’n syth allan i’r gweithle, ni waeth beth yw’r llwybr dewisol, boed yn filfeddygol, cadwraeth, cadw anifeiliaid neu unrhyw beth arall!”

Shopping cart close